Bore da Claire,
Dw i ddim yn gwybod a ydyn nhw’n
hollol ddibynadwy ond o wneud chwiliad ar y wikipedia Saesneg (http://en.wikipedia.org), maen nhw’n rhoi
enw Cymraeg mewn cromfachau ar ôl yr enw Saesneg weithiau, e.e. http://en.wikipedia.org/wiki/Point_Lynas
Hefyd, weithiau mae dolen ar ochr
chwith yr erthygl o dan languages, yn arwain at erthygl Gymraeg am yr un pwnc
ar y wikipedia Cymraeg (http://cy.wikipedia.org).
Gan fod modd i unrhyw un olygu
wikipedia, mae’n bosibl nad yw pob un yn hollol gywir wrth gwrs – ond falle y
gellid gwglo’r enw Cymraeg wedyn i weld a yw’n codi mewn mannau eraill.
Osian
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire
Richards
Sent: 17 Tachwedd 2009 10:02
To: [log in to unmask]
Subject: Enwau ar hyd y glannau
Point Lynas
Carmel Head
Pen Bwch Point (Pen Bwch ar ei
ben ei hun, efallai?)
Cemaes Head
Crincoed Point
Strumble Head
St David's Head
St Brides Bay (Sain Ffrêd yw St Brides, Sir Benfro,
felly Bae Sain Ffrêd?)
Linney Head
St Govan's Head
Old Castle Head
Giltar Point
Whitford Point
Worms Head
Unrhyw
syniadau? Byddwn i’n ddiolchgar iawn, iawn. Maen nhw’n codi
mewn darn o waith brys, i’w ddychwelyd amser cinio heddiw.
Claire
Mae
Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y
rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr
Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd
Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number
4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff
North, Cardiff, CF14 2FB.