Bore da Claire, Dw i ddim yn gwybod a ydyn nhw'n hollol ddibynadwy ond o wneud chwiliad ar y wikipedia Saesneg (http://en.wikipedia.org), maen nhw'n rhoi enw Cymraeg mewn cromfachau ar ôl yr enw Saesneg weithiau, e.e. http://en.wikipedia.org/wiki/Point_Lynas Hefyd, weithiau mae dolen ar ochr chwith yr erthygl o dan languages, yn arwain at erthygl Gymraeg am yr un pwnc ar y wikipedia Cymraeg (http://cy.wikipedia.org). Gan fod modd i unrhyw un olygu wikipedia, mae'n bosibl nad yw pob un yn hollol gywir wrth gwrs - ond falle y gellid gwglo'r enw Cymraeg wedyn i weld a yw'n codi mewn mannau eraill. Osian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Sent: 17 Tachwedd 2009 10:02 To: [log in to unmask] Subject: Enwau ar hyd y glannau Point Lynas Carmel Head Pen Bwch Point (Pen Bwch ar ei ben ei hun, efallai?) Cemaes Head Crincoed Point Strumble Head St David's Head St Brides Bay (Sain Ffręd yw St Brides, Sir Benfro, felly Bae Sain Ffręd?) Linney Head St Govan's Head Old Castle Head Giltar Point Whitford Point Worms Head Unrhyw syniadau? Byddwn i'n ddiolchgar iawn, iawn. Maen nhw'n codi mewn darn o waith brys, i'w ddychwelyd amser cinio heddiw. Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.