Diolch Siān. Teg dweud falle bod fy neges gynta yn eitha amwys, ac a dweud y gwir fe allwn i fynd ddwy ffordd gyda hyn (fel gyda llawer peth), er mai mynd gyda'r hen ffordd fydde'n braf, wrth gwrs, ond i bawb fod yn yr un llyfr gweddi, fel petai... A lle well i drafod ffyrdd o adfer hen dermau na'r cy;ch termau? Ond gobeithio nad oedd fy ail neges yn ormod o bregeth, ac mai cyd-ddigwyddiad oedd y tawelwch llethol, bron, a'i dilynodd..! Tybed beth yw barn pobl eraill? Osian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary on behalf of Siān Roberts Sent: Mon 11/9/2009 7:54 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: ffydleman - brown envelope Mary Dw i'n meddwl eich bod wedi camddeall neges Osian. Yn ōl a welaf i, dweud mae Osian bod y dywediadau hyn yn siwr o ddiflannu cyn hir oni chānt eu dysgu yn yr ysgolion. Cofion Siān On 9 Tach 2009, at 13:36, Mary Jones wrote: > Osian > Dydych chi ddim o ddifri, gobeithio! Onid priod-ddulliau sy'n > gwneud un iaith yn wahanol i iaith arall? Os na, gwell ichi gael > peiriannau yn eich ysgolion cynradd. > Mary > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > Of Rhys Osian (AcadReg) > Sent: 09 November 2009 13:26 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ffydleman - brown envelope > > Pwynt diddorol arall Ann. > > O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan > ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden > nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y > tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn > cyfieithiad y dyddiau hyn... > > Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn > gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn ty ni, ac yn > yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas, > brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd! > > Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed > porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n > meddwl! > > Osian > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf > Of Ann Corkett > Sent: 09 November 2009 11:24 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ffydleman - brown envelope > > Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd" > dylwn fod > wedi'i ddweud, nid "amlen frown"! > Ann