Alla i ddim dweud dim ynghylch y mater ond yr hyn a glywais ac a ddysgais gan Bruce (papur llwyd, siwgwr coch ayb.), ond peth arall ‘rwy’n ei gofio yw iddo f’atal rhag dweud bod hwn a hwn wedi llwydo. Bara sy’n llwydo, meddai fo, mae o wedi britho.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 09 November 2009 13:45
Siwgwr coch faswn i'n ei ddeud yn naturiol (Pen Llyn), ond papur brown. Gwellt glas (ond dwi erioed wedi dallt pam bod gwellt yn las a dail coed yn wyrdd a nhwtha'r un lliw mwy ne lai, a byd o wahaniaeth rhwng gwellt 'glas' ac awyr 'las'. Dwi'n cofio Kate Roberts yn deud wrtha i flynyddoedd lawer yn ol mod i 'wedi mynd yn felyn' - lliw haul oedd arna i - fedrai o ddim bod yn 'llwyd' wrth gwrs - rhywbeth gwahanol wedyn fasa hynny - dwi'n meddwl bod angen y gair 'brown' yn Gymraeg - gan mai dim ond gyfer ceffyl y mae gwinau yn gwneud y tro.
Annes
2009/11/9 Rhys Osian (AcadReg) <[log in to unmask]>
Pwynt diddorol arall Ann.
O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn cyfieithiad y dyddiau hyn...
Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn tŷ ni, ac yn yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas, brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd!
Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n meddwl!
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 09 November 2009 11:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ffydleman - brown envelope
Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd" dylwn fod
wedi'i ddweud, nid "amlen frown"!
Ann