Mi fydden ni'n deud wedi llwydo yn aml yn Edeyrnion os nad ym Mhenllyn hefyd am rywun a oedd wedi colli ei liw yn dilyn rhyw annwyd neu anhwylder arall. Roedd yn rhywbeth a glywid yn gyffredin iawn. Megan Date: Mon, 9 Nov 2009 15:48:22 +0100 From: [log in to unmask] Subject: Re: ffydleman - brown envelope To: [log in to unmask] dwi'n piffian chwerthin yma'n meddwl am 'rywun' 'wedi llwydo' - ych a fi!! dim ond o dan y dywarchen ddyliwn - ond bod wyneba pobol yn medru bod yn llwyd (dyna faswn i'n ei ddeud bob gafael yn lle gwelw - ond wedyn fasa rhywun ddim yn deud bod rhywun wedi llwydo - o ran ei wyneb - mynd yn llwyd fasa hynny'n te). Dwi'n gwbod nad trio twyllo dan ni, ond o godi'r ymadrodd o gyd-destun gwahanol, Oh what a tangled web ... Annes 2009/11/9 Ann Corkett <[log in to unmask]> Alla i ddim dweud dim ynghylch y mater ond yr hyn a glywais ac a ddysgais gan Bruce (papur llwyd, siwgwr coch ayb.), ond peth arall ‘rwy’n ei gofio yw iddo f’atal rhag dweud bod hwn a hwn wedi llwydo. Bara sy’n llwydo, meddai fo, mae o wedi britho. Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd Sent: 09 November 2009 13:45 To: [log in to unmask] Subject: Re: ffydleman - brown envelope Siwgwr coch faswn i'n ei ddeud yn naturiol (Pen Llyn), ond papur brown. Gwellt glas (ond dwi erioed wedi dallt pam bod gwellt yn las a dail coed yn wyrdd a nhwtha'r un lliw mwy ne lai, a byd o wahaniaeth rhwng gwellt 'glas' ac awyr 'las'. Dwi'n cofio Kate Roberts yn deud wrtha i flynyddoedd lawer yn ol mod i 'wedi mynd yn felyn' - lliw haul oedd arna i - fedrai o ddim bod yn 'llwyd' wrth gwrs - rhywbeth gwahanol wedyn fasa hynny - dwi'n meddwl bod angen y gair 'brown' yn Gymraeg - gan mai dim ond gyfer ceffyl y mae gwinau yn gwneud y tro. Annes 2009/11/9 Rhys Osian (AcadReg) <[log in to unmask]> Pwynt diddorol arall Ann. O ystyried mai'r unig le y clywais i hyn o'r blaen oedd pan ddwedodd fy Nain wrtha i mai 'papur llwyd' a 'siwgwr coch' oedden nhw'n ei ddweud "adre'n blant" (hynny yw yn sir Feirionnydd y tridegau), mae'n amheus gen i mai dyna rown i, fy hunan, mewn cyfieithiad y dyddiau hyn... Ydw i'n methu? Ydy pobl yn dal i ddweud hynny? I fi mae 'glas' yn gallu golygu green, ond brown oedd papur a siwgwr yn tŷ ni, ac yn yr ysgol byddai unrhyw beth heblaw green=gwyrdd, blue=glas, brown=brown, red=coch, grey=llwyd, yn chwerthinllyd! Os ydyn ni am i bobl arfer papur llwyd a siwgr coch (a hyd yn oed porfa las), mae angen i athrawon ysgol gynradd gael gwybod dw i'n meddwl! Osian -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 09 November 2009 11:24 To: [log in to unmask] Subject: Re: ffydleman - brown envelope Cywiriad. Bum yn meddwl yn Saesneg, mae'n rhaid. "Amlen lwyd" dylwn fod wedi'i ddweud, nid "amlen frown"! Ann _________________________________________________________________ New Windows 7: Simplify what you do everyday. Find the right PC for you. http://www.microsoft.com/uk/windows/buy/