Mae 'eithrio' yn rhemp yng Ngheredigion hefyd _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 03 November 2009 10:35 To: [log in to unmask] Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio Ie, ti'n iawn Gorwel. Ond mae'r ysgolion dan sylw'n defnyddio'r termau anghywir, mae'n debyg! gwahardd > atal > diarddel = exclusion > suspension > expulsion Geraint ----- Original Message ----- From: Gorwel <mailto:[log in to unmask]> Roberts To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, November 03, 2009 9:05 AM Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio Na, na, exempt yw eithrio, siawns. Camgyfieithiad o 'exclusion' yw 'eithrio' yn y cyswllt hwn. Fel hyn oedd hi: Exclusion = Gwahardd Suspend = Atal Expulsion = Diarddel _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 02 November 2009 18:08 To: [log in to unmask] Subject: Re: eithrio, eithrio ac eithrio exclusion = eithrio suspension = atal expulsion = gwahardd/diarddel Mae gen i ryw gof mai dyna oedd gan adran addysg Gwynedd ryw dro. ----- Original Message ----- From: Ann <mailto:[log in to unmask]> Corkett To: [log in to unmask] Sent: Monday, November 02, 2009 5:42 PM Subject: eithrio, eithrio ac eithrio 'Rwyf wrthi'n cyfieithu i'r Saesneg rheolau ysgol gynradd. Yn ol y rhain, os bydd plentyn yn pechu'n ofnadwy, caiff ei eithrio dros dro gan y pennaeth, wedyn bydd y llywodraethwyr yn ystyried ei eithrio, ac yno caiff ei eithrio'n ffurfiol o'r ysgol. Mae ysgol gynradd arall, er iddi ddefnyddio "eithrio" ar gyfer pob cam, yn son am "temporary exclusion", wedyn "suspension" ac wedyn "expulsion". A oes 'na unrhyw gyfiawnhad swyddogol dros ddefnyddio tri gair gwahanol, ynteu a ddylwn i lynu at "exclusion"? Diolch yn fawr iawn, Ann