Print

Print


Gyfeillion,   Nid bychan yw POB un SME, fel yr awgrymir yn arwynebol gan y term BaCh.

  

Fel un sydd wedi treulio ei oes gyfan yn ymdrechu’n gwbl ddi-fudd i ymestyn ac ychwanegu hyd yn oed yr “un cufydd” lleiaf “at fy maintioli”, gallaf eich sicrhau mai bach (a byth ddim byd mwy na bach), fydd ‘BaCh’;  h.y. all Mentrau / Busnesau BaCh ddim cymryd arnynt eu bod yn cynnwys y maintioli ‘Canolig’ bondigrybwyll.  Yn nirnadaeth y cyhoedd, Busnes BaCh yw ‘busnes bach’; a does dim hyd oed ronyn o obaith yn y term y gall byth gynnwys busnes sydd efallai ychydig yn fwy na ‘bach’ - sef yn ‘ganolig’ ei faint o bosib.  Yng ngwelediad ac yn sŵn y gair (y naill a’r llall) mae BaCh yn allgau ‘Canolig!  Term slic, lled-greadigol a hanner-clyfar efallai; ond fedrwn i fy hun ddim caniatáu defnyddio BaCh gan nad yw’n ymddangos yn ddigon amlwg fod busnesau / mentrau Canolig hefyd yn cael eu hystyried o dan yr un dosbarthiad.  Sori taflu dŵr oer ar derm sydd ar ei gyffyrddiad cyntaf yn denu’r dychymyg, ond unwaith wedi ei ddadansoddi mewn gwaed oer, sydd braidd yn gamarweiniol ac yn gorbwyso’n anheg ar un math yn unig o fusnesau /mentrau (sef y rhai ‘bach’), ar draul dibrisio a mwy na hanner anwybyddu’r math arall (sef y ‘canolig’).  Bias - hwnnw ydi o!  A chofiwch chi hefyd mai’r cerddor mwyaf erioed yn ein hanes oedd y Bach hwnnw o’r Almaen; doedd O yn sicr ddim yn gerddor ‘canolig’.  Ond stori arall fydd honno.

 

Eurwyn.

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lewis
Sent: 28 October 2009 16:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: SME

 

Maddeuwch un cynnig arall Bach i Ganolig yw cyfieithiad SME sy'n cynnig BiG fel acronym
  


Date: Tue, 27 Oct 2009 16:10:54 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: SME
To: [log in to unmask]

Da! Ond wedyn fyddai dim modd gwahaniaethu rhwng busnesau bach a busnesau BaCh...

 

(canolig nid "cymhedrol", gyda llaw)

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Geraint Lewis

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, October 27, 2009 3:51 PM

Subject: Re: SME

 

Mae 'Mentrau BaCh' (bach/bychain a chymhedrol eu maint) yn ymddangos yn acronym sy'n gweithio yn Gymraeg??
 
> Date: Tue, 27 Oct 2009 14:42:08 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: SME
> To: [log in to unmask]
>
> Roeddwn i'n meddwl mai Mentrau Bach a Chanolig oedden nhw. Beth bynnag, wele'r ddolen gyswllt hon, sy'n cytuno:
>
> http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/bettervfm/news/barriers/?version=1&lang=cy
>
> Eto i gyd, dilynir y defnydd o "Mentrau" gan yr acronym BBaChau, anghysondeb amlwg iawn.
>
> Hwyl
>
> Gwen


New Windows 7: Find the right PC for you. Learn more.

 


Download Messenger onto your mobile for free. Learn more.