Diolch, Sian. Rhaid cyfadde nad oedd gen i’r amynedd i ddarllen y llythyr i gyd, ond ymddengys i’r awdur (neu’r un mae’n ateb iddo) wahaniaethu rhwng rhoi diolch a gofyn bendith … ond O, mae o’n gwneud mor a mynydd o’r ddadl! Tybed pam methais i ddod o hyd i’r darn fy hun. Cofion gorau, Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts Sent: 24 October 2009 13:31 To: [log in to unmask] Subject: Re: Am yr hyn a dderbyniwn ... Diolch Ann a Bruce am eich holl help heddiw. Dyma'r cyfeiriad: http://books.google.com/books?id=jdcGAAAAYAAJ <http://books.google.com/books?id=jdcGAAAAYAAJ&pg=PA488&lpg=PA488&dq=gras+bw yd&source=bl&ots=PFbps7BRKi&sig=frPGb6TMebXJbHXCPBOHyH1g9jw&hl=cy&ei=ve_iSuC oA4mJ4QbW7rSRAg&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=4&ved=0CA4Q6AEwAw#v=one page&q=gras%20bwyd&f=false> &pg=PA488&lpg=PA488&dq=gras+bwyd&source=bl&ots=PFbps7BRKi&sig=frPGb6TMebXJbH XCPBOHyH1g9jw&hl=cy&ei=ve_iSuCoA4mJ4QbW7rSRAg&sa=X&oi=book_result&ct=result& resnum=4&ved=0CA4Q6AEwAw#v=onepage&q=gras%20bwyd&f=false Mae'n debyg hefyd bod Cannwyll y Cymry, y Ficer Pritchard, yn cynnwys amryw o adrannau ar y pwnc - Dw i'n cymryd mai rhyw benillion bach sydd yma, ie?: * * CAN. LXIV. GRAS CYN BWYD. * * CAN. LXV. GRAS YN OL BWYD. * * CAN. LXVI. GRAS CYN BWYD. * * CAN. LXVII. GRAS YN OL BWYD. * * CAN. LXVIII. ARALL CYN BWYD. * * CAN. LXIX. GRAS YN OL BWYD. * * CAN. LXX. GRAS CYN BWYD. * * CAN. LXXI. GRAS GWEDI BWYD. * * CAN. LXXII. GRAS CYN SWPPER. * * CAN. LXXIII. ARALL Â’R OL SWPPER. * * CAN. LXXIV. ARAL. * * CAN. LX V. GRÂS CYN BWYD. Ynghyd â phethau fel: * CAN. LIII. CYNGOR CYN MYNED I GARU. * * CAN. LIV. CANMOLIAETH GURAIG DDA. Y BUMED RANN, * * CAN. LV. RHYBUDD A CHYNGOR I’R GODINEBWR. * * CAN. LVI. CYNGOR I’R MEDDWYN. * * CAN. LVII. CÂN YNGHYLCH Y DIAWL A’R MEDDWON. * * CAN. LVIII. CYNGHOR YN RHYBUDDIO DYN I YMGADW RHAG LLETTYA MEDDYLIAU DRWG YN EI GALON; AC I ROSAWI MEDDYLIAU DAIONUS. On 24 Hyd 2009, at 13:08, Ann Corkett wrote: Diddorol. Alla i ddim dod o hyd i’r tudalen am ryw reswm, ond mae’n swnio’n ddadl hollo ddi-fudd! Dywed Bruce na chlywodd dim ond “dweud y fendith [cyn bwyd]” tan yn ddiweddar, gan gymryd bod pobl yn cyfieithu’r Saesneg yn llythrennol. Dyna rywbeth a geir mewn llawer o ysgrifau o’r 19fed ganrif hefyd – cyfieithu’n llythrennol o’r Saesneg. Ann -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts Sent: 23 October 2009 19:46 To: [log in to unmask] Subject: Re: Am yr hyn a dderbyniwn ... Diolch Ann Roedd gen i ryw gof bod pobl yn dweud "gras bwyd" ac felly fe roddais hynny yn Gwgl a dod o hyd i lythyr maith yn y Gwyliedydd 1823 yn dadlau ynghylch pa mor ysgrythurol yw "croesawi Gras Bwyd" - ai cyn 'ta ar ôl bwyd y dylid diolch a pha dystiolaeth Feiblaidd sydd dros y naill a'r llall. Difyr! Siân On 23 Hyd 2009, at 19:36, Ann Corkett wrote: Gyda llaw, digwydd cofio i Bruce ddweud wrthyf mai "bendith" yw'r gair am "grace" yn hytrach na "gras". Ahn -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Roberts, Nia Sent: 23 October 2009 12:27 To: [log in to unmask] Subject: Re: Am yr hyn a dderbyniwn ... Diolch o galon Siân. A diolch i Nia (Humphreys) am ei hawgrymiadau (roedden ni fel teulu'n defnyddio ryw ddau neu dri phennill gwahanol ac yn yr ysgol, ond gras bwyd mwy 'ffurfiol' oedd hwn, fel roedden ni'n ei glywed gan warden yn Neuadd Aberdâr Caerdydd (o barchus goffadwriaeth)flynyddoedd maith yn ôl! Diolch eto. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siân Roberts Sent: 23 October 2009 12:04 To: [log in to unmask] Subject: Am yr hyn a dderbyniwn ... Mae angen newid y llinell deitl Am yr hyn a dderbyniwn, O Dad, gwna ni'n wir ddiolchgar - dyna roedden ni'n ei ddweud yn yr ysgol uwchradd On 23 Hyd 2009, at 11:32, Roberts, Nia wrote: Pwnc arall - a wyr rhywun am ymadrodd Cymraeg a fyddai'n cyfateb i 'For what we're about to receive, may the Lord make us truly thankful. Diolch -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards Sent: 23 October 2009 09:44 To: [log in to unmask] Subject: Re: asedau a buddsoddiadau Hyd y gwelaf, agwedd at fuddsoddi yw 'balanced passive' Dyma ychydig o eiriau o daflen gan Scottish Equitable "For customers Balanced Passive Life fund factsheet for the period ending 30 June 2009 Fund description This fund aims to achieve long-term capital growth by investing mainly in UK and overseas equities. The remainder is invested in fixed interest investments and cash. The fund is passively managed and aims to match the performance of its benchmark, in this case the ABI Balanced Managed life sector average, by investing in the same proportions as it. The fund has the flexibility to invest up to 85% of its value in equities and a minimum of 50% must be in sterling-based investments. Dwi'n tybio y byddai cronfa 'global balanced passive' yn debyg i'r uchod ond yn buddsoddi ledled y byd. "(cronfa) oddefol gytbwys fyd-eang"? Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Nia Roberts Sent: 23 October 2009 09:32 To: [log in to unmask] Subject: asedau a buddsoddiadau[Spam score: 8%][Scanned] Help!! Oes gan rywun unrhyw wybodaeth am 'global balanced passive' yng nghyd-destun asedau a buddsoddiadau? Rwy'n cyfieithu adroddiad ariannol cronfa bensiwn ac yn y niwl!! Diolch! ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] *******************************************************************