Diolch i bawb am eu sylwadau ar yr enw hwn.
Yn y diwedd wnaethon ni ei adael yn Saesneg, gan nad oes
sicrwydd ynghylch enw Cymraeg.
Claire
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 21 October 2009 10:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Oyster Bank[Spam score: 8%][Scanned]
Mae Greta wedi dod yn ol atom yn y cyfamser. Mae’n haws imi copio
ei neges na’i hailadrodd:
Ymhle
yn union mae yr Oyster Bank ym Mae Tremadog? Mae amryw i'w gweld ar y siart, os
yw rhwng Llanbedrog a Phwllheli mae tua'r "Gamlas." Mae
"gwely" yn well gair na "banc" e.e., gwely cregyn gleision.
Rwyf yn falch o ddweud fod y gair "llymeirch" yn fyw ac yn iach ym
Mhen Llyn hyd heddiw. Mae gennyf gopi o lyfr Elfed Gruffydd ond nid oes
son ynddo am yr Oyster Bank.
Nid
yw Oyster Bank yn ymddangos ar siartiau Lewis Morris nac ar yr Anglesey Coast
Pilot, meddai Bruce. ‘Does ganddo ddim gwybodaeth y naill ffordd na’r llall
ynghylch defnydd “gwely” wrth son am bethau morol. Efallai bod
“traethell” yn bosibilrwydd arall, “traethell .. “ a ddefnyddir ar gyfer
Dutchman’s Bank ger Bangor.
Ond
awgrymiadau ar gyfer cyfieithiadau yw’r rhain i gyd – ni allwn ddod o hyd i
unrhyw enw traddodiadol, er nad yw hynny’n golygu nad oes un. Efallai
gellid mynd ar ol Hywel Wyn Owen, ond mae’n “long shot” a braidd yn hwyr at
ddibenion Claire.
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Iwan Edgar
Sent: 21 October 2009 10:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Oyster Bank
Fel un wedi byw o fewn ryw filltir ddwy i’r bondigrybwyll Oyster
Bank a’r hyd fy oes (a’m teulu genedlaethau lawer) chlywais i fawr ddim
enwau am rannau o’r môr rownd y dref acw. Ond heb gyswllt digon agos â rhai
oedd yn pysgota efallai. Ond mae yna ryw le o’r enw Gwely Mwd – ai hwnnw
ydyw hwn byddai rhaid gofyn i ambell un mwy cynefin – ond wedyn mwy o fwd
fyddai yn hwnnw siawns. Wn i ddim ond tybed ai Gwely yn hytrach na Banc
fyddai’n taro orau. Mi wn na lle i gysgu ydy gwely (ac yn
cyfieithu bed ryw dro) ond mae banc yn fwy fyth o le cadw pres a
chlywais i erioed ‘mono’n cael ei ddefnyddio yn y cyd-destun môr fforcw o
leiaf.
From: ,,,
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 21 October 2009 00:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Oyster Bank
Yn anffodus, nid oes gennym gopi – cyhyd a’n bod ni’n gwybod! ‘Dw
i’n siwr y bydd Bruce yn chwilio am un rwan.
Cefais ateb gan Greta Hughes, ond nid oedd wedi clywed am unrhyw
enw.
Meddai Bruce y byddai’n tueddu i gefnogi “Banc Wystrys”, sy’n
swnio’n eitha naturiol iddo. Mae (neu fe fu) “wystrys” ar lafar yn ardal
Bangor o leiaf - gw. Fynes-clinton, Welsh Vocabulary of the Bangor District,
lle gweler ef yn y ffurf “westras”.
Mae’n ddrwg gen i am yr oedi.
Gyda llaw, efallai dylwn i fod wedi dweud mai “Y Lasinwen” yw’r
“Inland Sea” ar Ynys Fon.
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
Sent: 19 October 2009 14:27
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ATB/RE: Oyster Bank
Oes rhywbeth yn "Ar hyd Ben 'Rallt - Enwau
Glannau Môr Penrhyn Llyn" gan Elfed Gruffydd? (cyfres Llyfrau Llafar Gwlad
42), tybed?
Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 16 Hydref 2009 13:23
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ATB/RE: Oyster Bank
Digon tebygol, meddai Bruce.
Er hynny, gan fod ‘na ychydig ddyddiau’n sbar, mi anfonaf at Greta
i weld a oes rhywbeth traddodiadol.
Cofiaf i gyfaill digon cydwybodol gyfieithu “The Inland Sea”
(lle ar Ynys Mon) yn llythrennol, a darganfod, ar ol cyhoeddi’r
cyfieithiad, fod enw brodorol ar gael (mewn cofnodion o waith y cyngor bro os
cofiaf yn iawn). Mae’n biti i hen enw gael ei ddisodli a mynd i
ebargofiant os oes ‘na un.
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Meleri H.
Hughes
Sent: 16 October 2009 10:17
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Oyster Bank
Newydd neud
ymholiadau, a Banc Wystrys yw’r enw yn ôl Adran Bioamrywiaeth Cyngor Gwynedd.
Meleri
From: Discussion
of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire
Richards
Sent: 16 October 2009 10:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Oyster Bank
Diolch, Ann. Erbyn dydd Mercher nesaf (21 Hydref).
Claire
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 16 October 2009 10:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Oyster Bank
Gallaf anfon at Greta Hughes, sy’n gweithio i’r Pysgodfeydd ac yn
ymddiddori mewn cyfieithu ac iaith. Erbyn pryd mae angen gwybod?
The
Oyster Bank at Pwllheli is a sheltered area of mud and sand
bottom
with stabilised pebbles and shells including small cobbles and
pebbles
in a muddy matrix. The site lies at a depth of 8 m within
Tremadog
Bay which is in the Pen Llyn Sarnau marine SAC. It is
the
only known site in the UK for Anotrichium barbatum.
Dermocorynus
montagnei is
a truly rare species confined to gravel
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire
Richards
Sent: 15 October 2009 16:30
To: [log in to unmask]
Subject: Oyster Bank
Oes
enw Cymraeg ar ‘Oyster
Bank’ ym Mae
Tremadog?
Diolch.
Claire
Mae
Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y
rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr
Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB.
Pennawd
Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number
4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff
North, Cardiff, CF14 2FB.
-------------------------------------------------------------
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiad iddo yn gyfrinachol ac fe'i bwriedir ar
gyfer y sawl a enwir arno yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth freintiedig. Os yw
wedi eich cyrraedd trwy gamgymeriad ni ellwch ei gopio, ei ddosbarthu na'i
ddangos i unrhyw un arall a dylech gysylltu â'r anfonwr ar unwaith.
Mae unrhyw gynnwys nad yw'n ymwneud â busnes swyddogol y corff sy'n anfon yr
e-bost yn bersonol i'r awdur.
-------------------------------------------------------------
This email and any attachments are confidential and intended for the named
recipient only. The content may contain privileged information. If it has
reached you by mistake, you should not copy, distribute or show the content to
anyone but should contact the sender at once.
Any content that is not pertinent to the official business of the organisation
is personal to the author.
-------------------------------------------------------------
Arbedwch bapur, ynni ac arian - Peidiwch argraffu'r neges yma oni bai ei bod yn
hollol angenrheidiol.
Save paper, energy and money - Do not print this message unless it is
absolutely necessary.
No virus
found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.423 / Virus Database: 270.14.23/2447 - Release Date: 10/20/09
18:42:00