Tra bo Cysill dan yr ordd, dw i'n darganfod weithiau fod rhai "cywiriadau" yn digwydd yn ddigymell hyd yn oed ar ôl i mi sicrhau nad oes tic gen i'n gofyn i'r rhaglen "Gywiro gwallau amlwg heb ofyn".Felly yr unig ffordd ddiogel o ddefnyddio Cysill, hyd y gwelaf, ydy gwneud copi o'r ddogfen sydd i'w gwirio a rhedeg Cysill ar honno, gan nodi pob cywiriad angenrheidiol ar bapur sgrap. Wedyn dychwelyd at y ddogfen wreiddiol a "chwilio" am bob un yn ei dro. Llafurus ond saffach.Huw----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Gwenllian Mair WilliamsTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Wednesday, October 21, 2009 11:57 AMSubject: Re: Problem troednodiadau Cysill
Mi gefais i'r un broblem wythnos dwytha a gorfod ail-osod dros 80 o droednodiadau!Niwsans pur.Oes na ateb i'r broblem, heblaw am fynd drwy ddogfen dudalen ar y tro?
From: Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>
Subject: Re: Problem troednodiadau Cysill
To: [log in to unmask]
Date: Wednesday, 21 October, 2009, 11:21 AM
Do, wedi cael yr un broblem pan 'roeddwn yn defnyddio Cysill (cyn symud i beiriant Mac).O gofio, roedd hefyd yn torri hyperddolenni, a rhaid oedd ceisio cofio peidio â'u cynnwys wrth roddi'r ddogfen trwy Cysill.=Sioned
On 21 Oct 2009, at 11:17, Rhian Jones wrote:
Ar ôl i mi ddefnyddio Cysill i wirio dogfen mae rhai troednodiadau'n diflannu. Oes yna rywun arall yn cael y broblem yma?Rhian