Print

Print


Dw i ar goll yn llwyr rwan; beth yw’r gwahaniaeth.  Ydy collfarn ac euogfarn yn cynrychioli geiriau neu ymadroddion gwahanol yn Saesneg?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 20 October 2009 11:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Do you have, or have you had, any criminal convictions?

 

Mae 'collfarn droseddol' dipyn yn fwy cyffredin na 'euogfarn droseddol' mewn deddfwriaeth, sef y statws uchaf posibl.

 

Tim

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 20 October 2009 11:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Do you have, or have you had, any criminal convictions?

Ond a oes modd cael “euogfarn” yn erbyn rhywun mewn achos o gosb sifil, ynteu a yw’r ffaith bod trosedd wedi digwydd ynghylwm yn yr “euog”?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 20 October 2009 08:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Do you have, or have you had, any criminal convictions?

 

O ran cynnwys ‘troseddol’ neu beidio (i gyfleu ‘criminal’), mae’n werth cofio’r gwahaniaeth yn y gyfraith rhwng cosbau troseddol a chosbau sifil.

 

Dyna pam maen nhw wedi cynnwys ‘criminal’ efallai, am nad oes rhaid ichi ddatgelu unrhyw achosion sifil sy wedi bod yn eich erbyn?  

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 19 Hydref 2009 12:16
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Do you have, or have you had, any criminal convictions?

 

Gofynnir y cwestiwn ar ffurflen aelodaeth gwasanaeth gwirfoddol. ‘Dw i’n siwr y bydd ‘na rai sy’n gwybod yr union ateb i hyn, ond ‘rwyf i’n drysu.  Byddwn i’n arbennig o ddiolchgar am gymorth gan y rhai sy’n ymwneud a chyfraith a threfn (a chan y rhai sy’n cysoni TermCymru).

 

Yn gyntaf, “conviction”

Robyn Lewis, Geiriadur y Gyfraith): collfarn [euogfarn [Rh69]]

TermCymru: collfarn (statws 4)

Geiriadur Termau’r Gyfraith: euogfarn

 

Beth, os rywbeth, a ddefnyddir ar gyfer “criminal” yn y fath gyd-destun – a oes angen gair ar gyfer “criminal” o gwbl, ynteu a yw “euogfarn/collfarn” ar ei ben ei hun yn dweud y cyfan?

 

Yn TermCymru ceir:

spent conviction: collfarn wedi'i disbyddu (statws 4)

unspent convictions: collfarnau heb ddarfod (statws 5)

 

Do you have …?

Cymeraf nad yw “a oes gennych …” ddim yn addas.

 

Mae pob math o bosibilrwydd, e.e.: “A oes, neu a fu erioed, unrhyw gollfarn [droseddol] yn eich erbyn?

 

Help!

 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.422 / Virus Database: 270.14.20/2444 - Release Date: 10/18/09 09:04:00

 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad