Gofynnir y cwestiwn ar ffurflen aelodaeth gwasanaeth gwirfoddol.
‘Dw i’n siwr y bydd ‘na rai sy’n gwybod yr union ateb i
hyn, ond ‘rwyf i’n drysu. Byddwn i’n arbennig o
ddiolchgar am gymorth gan y rhai sy’n ymwneud a chyfraith a threfn (a
chan y rhai sy’n cysoni TermCymru).
Yn gyntaf, “conviction”
Robyn Lewis, Geiriadur y Gyfraith): collfarn [euogfarn [Rh69]]
TermCymru: collfarn (statws 4)
Geiriadur Termau’r Gyfraith: euogfarn
Beth, os rywbeth, a ddefnyddir ar gyfer “criminal”
yn y fath gyd-destun – a oes angen gair ar gyfer “criminal” o
gwbl, ynteu a yw “euogfarn/collfarn” ar ei ben ei hun yn dweud y
cyfan?
Yn TermCymru ceir:
spent conviction: collfarn wedi'i disbyddu (statws 4)
unspent convictions: collfarnau heb ddarfod (statws 5)
Do you have …?
Cymeraf nad yw “a oes gennych …” ddim yn addas.
Mae pob math o bosibilrwydd, e.e.: “A oes, neu a fu erioed,
unrhyw gollfarn [droseddol] yn eich erbyn?
Help!