Cytuno ar ôl meddwl David - oherwydd mae angen caniatáu ar gyfer ' to give leave to appeal'. _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran David Bullock Anfonwyd/Sent: 14 Hydref 2009 11:37 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: uphold an appeal Wedi chwilio’n gyflym yn is-ddeddfwriaeth y Cynulliad am offerynnau sy’n cynnwys ‘uphold’ ac ‘appeal’, mae’n edrych yn debyg mai ‘cadarnhau’ yw ‘uphold’. Wi’n meddwl bod ‘cadarnhau’ wedi’i ddewis yn hytrach na ‘caniatáu’ am fod yna broses (mewn rhai achosion o leia) lle mae’n rhaid ichi wneud cais i Farnwr am i’ch apêl gael ei gwrando (leave to appeal, wi’n meddwl, yw’r term Saesneg). Mae’r barnwr wedyn naill ai yn dweud nad yw’r apêl yn deilwng ac yn gwrthod caniatâd, neu mae’n penderfynu bod yr apêl yn un deilwng ac mae’n rhoi caniatâd iddi gael ei gwrando (grants leave to appeal, ife?) Ar ôl i’r llys wrando’r apêl, caiff yr apêl ei gwrthod neu ei chadarnhau. _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran MEG ELIS Anfonwyd/Sent: 14 Hydref 2009 11:19 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: uphold an appeal Caniatau apel pan fo'r cais yn llwyddiannus. --- On Wed, 14/10/09, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote: From: Claire Richards <[log in to unmask]> Subject: uphold an appeal To: [log in to unmask] Date: Wednesday, 14 October, 2009, 11:16 AM Yng Ngeiriadur yr Academi “to uphold the law” = cynnal y gyfraith a “to uphold a decision” = cadarnhau penderfyniad. Y broblem gyda’r gair ‘cynnal’ yw bod y mwyafrif helaeth o’r enghreifftiau o ‘gynnal apêl’ yn cyfeirio at redeg apêl am arian. A ellir ‘cadarnhau’ apêl? Yn sicr byddai rhywun yn cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol wrth wrthod yr apêl, ond beth am yr apêl ei hun? Dyma ddiffiniad Geiriadur Rhydychen “To support by advocacy or assent; to sustain against objection or criticism”. Diolch am unrhyw gymorth. Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB. No virus found in this incoming message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 8.5.421 / Virus Database: 270.14.13/2432 - Release Date: 10/13/09 19:11:00