Ydyn ni’n creu anawsterau diangen yma?
Y cyfan y mae angen ei gofio yw:
1. Dyw’r gair ‘ai’ ddim yn creu treiglad ar ei ôl. Mae disgrifiad TJ Morgan yn ddigon pendant.
Ond,
2. Mae sangiad yn creu treiglad.
Y gamp wedyn yw penderfynu a ydy’r ‘naill ai’ mewn brawddeg fel ‘Gallwch naill ai sefyll neu eistedd’ yn sangiad neu beidio.
Fy hunan, fyddwn i ddim yn credu y gallech chi feddwl am ‘naill ai’ fel sangiad, achos mae yna yn gwbl naturiol, “naill ai x ynteu y”.
Mae gan TJ Morgan ddisgrifiad da o sangiadau, ac mae’n sôn am frawddegau lle mae’r sangiad yn cael ei osod yng nghanol cystrawen yn fympwyol (Y mae – Duw a ŵyr – geffyl gennyf).
Ond nid rhyw fympwy yn arddull awdur penodol sy’n gyfrifol bod y ‘naill ai’ wedi’i osod yn y frawddeg ‘Gallwch naill ai sefyll neu eistedd’, felly dyw hi ddim yn edrych yn debyg y dylech chi drin y ‘naill ai’ yma fel sangiad.
Byddwn i’n dyfalu felly mai ‘gallwch naill ai gweithio neu chwarae’ ddywedai TJ Morgan.
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Vaughan-Thomas, Paul
Anfonwyd/Sent: 01 Hydref 2009 09:34
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Nid ble i osod 'naill ai' yw'r broblem, Geraint, ond a yw'r gair ar ôl 'naill ai' yn treiglo neu beidio e.e. pan fo ffurf gryno'r ferf neu arddodiad o flaen y 'naill ai'
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 01 October 2009 09:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Wel os mai cyfieithu brawddeg fel "You can either work or play" a wneir,
dyna'r unig le i roi'r "naill ai" hyd y gwela i.
"Gallwch naill ai weithio neu chwarae."
Yr unig ffordd arall i ddweud hyn yn naturiol fyddai "Gallwch weithio neu
gallwch chwarae".
Geraint
----- Original Message -----
From: "Rhys Osian (AcadReg)" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 30, 2009 5:02 PM
Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Dyw hyn ddim yn ateb y cwestiwn (tase RHAID i fi ateb y cwestiwn falle y
dwedwn i bod treiglo'n swnio'n well yn fynna hefyd..?), ond i fi byddai'n
swnio'n llawer mwy naturiol symud y "naill ai" yn yr enghraifft yna fel nad
yw'n dod ar ol yr arddodiad beth bynnag:
'naill ai drwy bysgota neu drwy hela'...
Osian
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary on
behalf of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: Wed 9/30/2009 3:20 PM
Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Yn dilyn yr un egwyddor 'te, petai arddodiad yn dod o flaen naill ai (e.e.
trwy naill ai x neu y), fyddai hyn yn achosi treiglad hefyd?
Er enghraifft, trwy naill ai bysgota neu hela NEU trwy naill ai pysgota neu
hela.
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 30 September 2009 14:46
Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Awgrym gan Heini:
Fel arfer :
Ar ol 'naill ai' : dim angen treiglo:
Naill ai Cymru neu Loegr
Ond tybed beth sy'n digwydd os yw gwrthrych berf gryno (sy'n treiglo, e.e.
gallwch weld), yn dilyn 'naill ai'?
Gallwch naill ai weld NEU gallwch naill ai gweld... ???
Nid 'y naill ai' sy'n peri treiglad. Byddwn i'n dueddol o feddwl bod
treiglad fan hyn oherwydd bod 'gweld' yn wrthrych y ferf gryno
________________________________
From: David Bullock <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, 30 September, 2009 2:26:58 PM
Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio"
Rwy'n dyfalu bod "gallwch naill ai weithio ..." yn teimlo'n fwy cywir ichi
am fod y "naill ai" yma yn debyg i sangiad, ac mae sangiad yn creu treiglad.
O ran 'naill ai' pan nad yw'n sangiad: yn gynta, anghofiwch y gair 'naill'.
Y cwestiwn yw, ydyn ni'n treiglo ar ôl 'ai'?
Ym mharagraff 136 o lyfr TJ Morgan 'Y Treigladau a'u Cystrawen' mae'r ateb.
Mae'n dweud bod 'ai' yn gyfuniad o'r geiryn 'a', (e.e. a gefaist?, a
welodd?) + ffurf ar y cyplad, heb dreiglad yn dilyn, e.e. ai dyn a welaist?
Ai gwir?
-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alun, Steffan
Anfonwyd/Sent: 30 Medi 2009 14:07
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: "Gallwch naill ai weithio"
Cwestiwn cyflym (gobeithio):
Beth yw'r rheol ynglyn â threiglo ar ôl "naill ai"? Wedi methu â dod o hyd
i'r ateb mewn nifer o lyfrau! Yn reddfol, mae'n teimlo fel na ddylid
treiglo ("naill ai ci neu gath"), ond mae "gallwch naill ai weithio ..." yn
teimlo'n fwy cywir na "gallwch naill ai gweithio ...". Ai'r "gallwch" sy'n
peri treiglad? Neu ai'r ail ddewis sy'n gywir?
Steffan
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
on the following address: [log in to unmask]
Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask]
*******************************************************************
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.5.409 / Virus Database: 270.13.114/2402 - Release Date: 09/30/09
05:52:00