Wedi holi'r cwsmer ynghylch ystyr yr uchod, awgrymodd "llythyr cynrychiolaeth/cynrychioli" ond gan ddweud ar yr un pryd: 'Dyma rai o eiriau diweddglo'r llythyr: "We confirm, to the best of our knowledge and belief, that the above representations are made on the basis of enquiries of management and staff with relevant knowledge and experience .." (mae'r 'representations' yn cyfeirio at ddatganiadau am 'internal control', asedau ac ati.)' Mae'n wir bod 64 o enghreifftiau o "llythyr cynrychiolaeth" ar Google, ond mae'n glir o TermCymru mai "sylwadau" yw'r gair arferol ar gyfer y math hwn o "representations". Mae llawer mwy o enghreifftiau o "llythyr sylwadau", "llythyr o sylwadau", "llythyr yn dwyn sylwadau" ar Google (er nad ydynt i gyd, o bosibl, yn cyfieithu "letter of representation"). Nid oes dim yn defnyddio "datganiad[au]" yn yr un modd. Ga i gymryd, felly, mai < sylwadau > sy'n gywir, a'i bod hi'n werth anfon y neges hon i helpu pawb arall sy'n dod ar draws yr ymadrodd, gan gynnwys y rhai sydd eisoes wedi dechrau arfer < llythyr cynrychiolaeth > ? A yw unrhyw un o'r dewisiadau'n well/ yn fwy cyfarwydd na'r lleill ? Diolch yn fawr iawn, Ann