Cyd-destun - persistent vomiting/diarrhoea.
Sgript sy'n mynd i gael ei llefaru yw hi ar gyfer y cyhoedd
ac sy'n rhestru symptomau sydd gen i, felly mae angen i'r cyfieithiad fod yn
feddygol gywir ac eto'n ddealladwy'n syth.
Dw i'n cael fy nhynnu i roi 'drwy'r amser', 'yn ddi-baid' neu
'o hyd' ond yn poeni nad yw'r rhain yn ddigon manwl gywir h.y. go brin y byddai
rhywun yn chwydu drwy'r amser. Ond mae rhywbeth fel 'yn barhaus' yn swnio
braidd yn od yn y cyd-destun. Unrhyw awgrym neu farn?
Diolch
Carolyn