Awgrym gan Heini: Fel arfer : Ar ol ‘naill ai’ : dim angen treiglo: Naill ai Cymru neu Loegr Ond tybed beth sy’n digwydd os yw gwrthrych berf gryno (sy’n treiglo, e.e. gallwch weld), yn dilyn ‘naill ai’? Gallwch naill ai weld NEU gallwch naill ai gweld... ??? Nid ‘y naill ai’ sy’n peri treiglad. Byddwn i’n dueddol o feddwl bod treiglad fan hyn oherwydd bod ‘gweld’ yn wrthrych y ferf gryno ________________________________ From: David Bullock <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 30 September, 2009 2:26:58 PM Subject: Re: "Gallwch naill ai weithio" Rwy'n dyfalu bod "gallwch naill ai weithio ..." yn teimlo'n fwy cywir ichi am fod y "naill ai" yma yn debyg i sangiad, ac mae sangiad yn creu treiglad. O ran 'naill ai' pan nad yw'n sangiad: yn gynta, anghofiwch y gair 'naill'. Y cwestiwn yw, ydyn ni'n treiglo ar ôl 'ai'? Ym mharagraff 136 o lyfr TJ Morgan 'Y Treigladau a'u Cystrawen' mae'r ateb. Mae'n dweud bod 'ai' yn gyfuniad o'r geiryn 'a', (e.e. a gefaist?, a welodd?) + ffurf ar y cyplad, heb dreiglad yn dilyn, e.e. ai dyn a welaist? Ai gwir? -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alun, Steffan Anfonwyd/Sent: 30 Medi 2009 14:07 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: "Gallwch naill ai weithio" Cwestiwn cyflym (gobeithio): Beth yw'r rheol ynglyn â threiglo ar ôl "naill ai"? Wedi methu â dod o hyd i'r ateb mewn nifer o lyfrau! Yn reddfol, mae'n teimlo fel na ddylid treiglo ("naill ai ci neu gath"), ond mae "gallwch naill ai weithio ..." yn teimlo'n fwy cywir na "gallwch naill ai gweithio ...". Ai'r "gallwch" sy'n peri treiglad? Neu ai'r ail ddewis sy'n gywir? Steffan ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] ******************************************************************* No virus found in this incoming message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 8.5.409 / Virus Database: 270.13.114/2402 - Release Date: 09/30/09 05:52:00