Print

Print


Byddai’n ddiddorol iawn cael gwybod rhagor am hanes y gerdd.  Ydy hi heb ei chyhoeddi?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 23 September 2009 15:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Hitia Mono Fi

 

O ddarllen gweddill y gerdd, dwi'n meddwl mai chi sydd agosaf ati, Ann, er bod ambell i beth ychydig yn amwys. Dyma hi:

 

Mae y darlun yn dy afael

Cadw hwnw er fy mwyn

Ysgwyd ddwy law wrth ymadael

Daeth y cerbyd i fy nwyn

Caled arnaf ers ysmeityn

Ydyw rhoi ffarwel i ti

Dyro gusan fach cyn cychwyn

Hitia mo’no mo’no fi

 

Sych y deigryn hefo’r ffunen

Roddais am dy wddw gwyn

Aiff y cwmwl heibio'n fuan

A anghofi dithau hyn

Y mae cartref a'i gusuron

Y mae tad a mam i ti

Gwell iw peido torri calon

Hitia mo’no mo’no fi

 

Paid fy nghariad bod yn rhwystr

Ymadawiad bachgen ffol

Syn gobeitho dod o’r frwydr

I dy fynwes eto'n ol

Udgyrn rhyfel sydd yn galw

Arnaf roi ffarwel i ti

Dros fy ngwlad caf fyw neu farw

Hitia mo’no mo’no fi

 

Gwn fod mam yn ffrind iw phlentyn

Fod ei chalon bron yn ddwy

Pan gusanodd fi wrth gychwyn.

Ofn na welai mo’nai mwy

Felly union rydwyf finnau

Wrth ffarwelio hefo ti

Deil fy serch y dynn hyd angau

Hitia mo’no mo’no fi

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 September 2009 14:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Hitia Mono Fi

 

Dyma ateb Bruce:

 

Ffunen = “neckerchief”.  Ie, iaith Sir Fon.

Hyd y gwelaf mae neges y gerdd yn glir: os bydd i’r ferch gwrdd a chariad newydd, ni fydd y milwr yn hidio dim, gan mai “ifanc a difeddwl” a fuasai ef ei hun pan oedd yn ei chanlyn.  dylai’r ddwy linell olaf ddarllen fel hyn, mi dybiwn:

“Os yw’n gariad wedi’r cwbl

[Ni] Hitia mono fi  (h.y. ni fydd yn fy mhoeni i).

 

Dyma f’ymateb i:

‘Roeddwn i wedi cymryd hefyd mai “Paid a phoeni amdana i” yw’r ystyr.  Medd Bruce y byddai hynny’n “[na] hitia amdanaf i”, ond er hynny, mae dadansoddiad Bruce yn swnio naill ai braidd yn sarhaus neu’n sarhaus er mwyn bod yn hunanaerthol (“A oedd o yn ei olygu?”, meddwn i; “Mater arall ‘dy hynny”, meddai Bruce)

 

Byddai’n help tasai rhywun yn gyfarwydd a chan Tony ac Aloma – gwelaf mai Llewelyn Thomas oedd awdur y geiriau.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 23 September 2009 11:51
To: [log in to unmask]
Subject: Hitia Mono Fi

 

Dwi wedi cael cais i gyfieithu cerdd gan filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a anfonwyd i'w gariad, a'r teitl, sydd hefyd yn ffurfio llinell olaf pob pennill yw 'Hitia Mo'no, mo'no fi'

Wn i ddim o ble'r oedd y milwr yn dod, ond mae cyfeiriad at 'ffunen' - 'Sych y deigryn hefo’r ffunen / Roddais am dy wddw gwyn' felly gogleddol (sir Fon?) fyddwn i'n tybio. O chwilio ar y we, mae gan Tony ac Aloma (sir Fon eto) gan o'r enw 'Hitia Mono Fi'.

 

Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu?  Ai 'anghofia amdanaf i' neu 'paid a phoeni amdanaf i'?

 

Dyma'r pennill cyntaf:

 

Anwyl eneth, paid a wylo

Os wyf fi yn mynd i ffwrdd

Fe ddaw rhywun arall heibio

I dy garu a dy gwrdd

Ifanc oeddwn a difeddwl

Pan yn rhodio gyda thi

Os yn gariad wedi’i cwbl

Hitia mo’no mo’no fi

 

Diolch am unrhyw gymorth

Catrin