Am ryw rheswm, mi ges i'r argraff bod 'hidio' yn air gogleddol. On'd ydy hynny'n wir? --Mark Catrin Beard wrote: > Dwi wedi cael cais i gyfieithu cerdd gan filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a > anfonwyd i'w gariad, a'r teitl, sydd hefyd yn ffurfio llinell olaf pob > pennill yw 'Hitia Mo'no, mo'no fi' > > Wn i ddim o ble'r oedd y milwr yn dod, ond mae cyfeiriad at 'ffunen' - > 'Sych y deigryn hefo’r ffunen / Roddais am dy wddw gwyn' felly gogleddol > (sir Fon?) fyddwn i'n tybio. O chwilio ar y we, mae gan Tony ac Aloma > (sir Fon eto) gan o'r enw 'Hitia Mono Fi'. > > > > Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu? Ai 'anghofia > amdanaf i' neu 'paid a phoeni amdanaf i'? > > > > Dyma'r pennill cyntaf: > > > > Anwyl eneth, paid a wylo > > Os wyf fi yn mynd i ffwrdd > > Fe ddaw rhywun arall heibio > > I dy garu a dy gwrdd > > Ifanc oeddwn a difeddwl > > Pan yn rhodio gyda thi > > Os yn gariad wedi’i cwbl > > Hitia mo’no mo’no fi > > > > Diolch am unrhyw gymorth > > Catrin > > > > >