Print

Print


Beth am yr Hen Ogledd? Mi glywais i fod 'na hen begor tua Chatraeth yn dal i gyfrif ei ddefaid a'i bensiwn yn Gymraeg!
Paul W. Birt, PhD
Chaire d'Études celtiques,
Université d'Ottawa,
70, rue Laurier,(131)
Ottawa, 
K1N 6N5
Ontario
Canada   
www.modernlanguages.uottawa.ca/celtic.html
Tél. (613)562-5800(3767)
Téléc/Fax (613)562-5138.


-----Original Message-----
From:         Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Date:         Wed, 23 Sep 2009 18:42:50 
To: <[log in to unmask]>
Subject: Re: Hitia Mono Fi


Wel, fedri di ddim mynd yn llawer mwy gogleddol na sir Fôn!

----- Original Message ----- 
From: "Mark Nodine" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, September 23, 2009 5:25 PM
Subject: Re: Hitia Mono Fi


Am ryw rheswm, mi ges i'r argraff bod 'hidio' yn air gogleddol.
On'd ydy hynny'n wir?

--Mark

Catrin Beard wrote:
> Dwi wedi cael cais i gyfieithu cerdd gan filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf a 
> anfonwyd i'w gariad, a'r teitl, sydd hefyd yn ffurfio llinell olaf pob 
> pennill yw 'Hitia Mo'no, mo'no fi'
>
> Wn i ddim o ble'r oedd y milwr yn dod, ond mae cyfeiriad at 'ffunen' - 
> 'Sych y deigryn hefo’r ffunen / Roddais am dy wddw gwyn' felly gogleddol 
> (sir Fon?) fyddwn i'n tybio. O chwilio ar y we, mae gan Tony ac Aloma (sir 
> Fon eto) gan o'r enw 'Hitia Mono Fi'.
>
>
> Tybed a oes unrhyw un yn gwybod beth mae hyn yn ei olygu?  Ai 'anghofia 
> amdanaf i' neu 'paid a phoeni amdanaf i'?
>
>
> Dyma'r pennill cyntaf:
>
>
> Anwyl eneth, paid a wylo
>
> Os wyf fi yn mynd i ffwrdd
>
> Fe ddaw rhywun arall heibio
>
> I dy garu a dy gwrdd
>
> Ifanc oeddwn a difeddwl
>
> Pan yn rhodio gyda thi
>
> Os yn gariad wedi’i cwbl
>
> Hitia mo’no mo’no fi
>
>
> Diolch am unrhyw gymorth
>
> Catrin
>
>
>