Ie Annes, ond pan oeddet ti'n siarad efo dy fyfyrwyr, "chi" fysa hi ynde? Onibai dy fod ti'n siarad efo pob un yn unigol, ond fasa hynny'n gwneud y darlithoedd braidd yn faith. ;-)----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Saturday, August 22, 2009 4:54 PMSubject: Re: ti/chiDiolch Sian - diddorol iawn. Ond mae 'chi' yn codi croen gwydd arna i (hir oes i be ddeudodd dafydd y Dug), fyddwn i fyth yn gadael i fy myfyrwyr weiddi chi arna i, ac ar ol rhyw sbelan bach mi fedrais i'u hyfforddi nhw i ddeud ti hyd yn oed os na fedrais i'u hyfforddi nhw i actio (nid ym mhob achos cyn i neb ddechra cymyd atyn nhw a gweiddi).Annes2009/8/22 Siân Roberts <[log in to unmask]>
Trafodaeth yma o ddyddiau cyfieithu Facebook:
On 22 Aug 2009, at 13:36, Geraint Lovgreen wrote:
Mae'n well gen i ddefnyddio "chi" fel arfer achos i mi mae'r wefan neu beth bynnag yn siarad efo mwy nag un person, felly mae'n edrych yn chwithig i mi pan fydd gwefan yn deud pethau fel "Clicia yma". Ond mae "ti" yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn y dyddiau yma mewn gwefannau a chylchgronau, felly hwyrach mai dim ond chwiw gen i ydi'r teimlad mai "chi" (lluosog, nid ffurfiol - h.y. "chi ddarllenwyr") ddylid ei ddefnyddio.Falle ei fod o (gwefannau'n ein cyfarch fel "ti") yn rhywbeth i'w wneud â natur unigolyddol ein hoes...Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffyddSent: Friday, August 21, 2009 5:43 PMSubject: ti/chiMae amryw o wefannau neu gatalogau etc dwi'n eu defnyddio yn yr Eidal yn gweiddi 'ti' arna i. Dwi'n ei gael yn llawer brafiach na 'chi'. Debyg iawn, mewn dogfen swyddogol, mi fasa'n rhaid defnyddio 'chi', ond mewn rhywbeth mwy anffurfiol e.e. cymell pobol i gymryd rhan mewn rhyw weithgaredd neu'i gilydd, dach chi'n meddwl ei bod yn dderbyniol deud 'ti'?Annes