Print

Print


Mae'n well gen i ddefnyddio "chi" fel arfer achos i mi mae'r wefan neu beth bynnag yn siarad efo mwy nag un person, felly mae'n edrych yn chwithig i mi pan fydd gwefan yn deud pethau fel "Clicia yma". Ond mae "ti" yn cael ei ddefnyddio'n aml iawn y dyddiau yma mewn gwefannau a chylchgronau, felly hwyrach mai dim ond chwiw gen i ydi'r teimlad mai "chi" (lluosog, nid ffurfiol - h.y. "chi ddarllenwyr") ddylid ei ddefnyddio.

Falle ei fod o (gwefannau'n ein cyfarch fel "ti") yn rhywbeth i'w wneud â natur unigolyddol ein hoes...

Geraint
  ----- Original Message ----- 
  From: annes gruffydd 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Friday, August 21, 2009 5:43 PM
  Subject: ti/chi


  Mae amryw o wefannau neu gatalogau etc dwi'n eu defnyddio yn yr Eidal yn gweiddi 'ti' arna i. Dwi'n ei gael yn llawer brafiach na 'chi'. Debyg iawn, mewn dogfen swyddogol, mi fasa'n rhaid defnyddio 'chi', ond mewn rhywbeth mwy anffurfiol e.e. cymell pobol i gymryd rhan mewn rhyw weithgaredd neu'i gilydd, dach chi'n meddwl ei bod yn dderbyniol deud 'ti'?

  Annes