Print

Print


Ond mae enwau llefydd yn datblygu dros amser maith a dydyn nhw ddim bob amser yn cydymffurfio â rheolau arferol - dw i newydd basio arwydd i rywle o'r fath ar yr A470 - dim yn cofio lle - rhywbeth fel Henrhyd?
Oes gennym ni hawl i 'gywiro' enwau llefydd felly?



On 20 Aug 2009, at 18:45, Dewi Williams wrote:

Helo David,
Mae ynys yn fenywaidd. ee. Ynyslas, Ynysddu, Ynyswen.
felly-
 
Cwmynysgou
 
Dewi
 

Date: Thu, 20 Aug 2009 09:41:59 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Cwmynyscoy
To: [log in to unmask]

Diolch yn fawr i’r ddau ohonoch.

 

Ydy, David, wi’n credu taw ‘pant’ yw’r ystyr fan hyn. Wi’n credu bod e’n ddigon saff (ac yn edrych yn well i’m llygaid fi) i’w newid i ‘Cwmynyscou’.

 

David Symons
Cyfieithydd / Translator
Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund
 
029 2067 8246

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Mary Jones
Sent: 19 Awst 2009 16:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cwmynyscoy

 

Ac mae Cwm-cou y tu allan i Gastellnewydd Emlyn. ‘Cou’ yw’r ynganiad lleol am ‘cau’, sef rhywbeth gwag, rhywbeth â thwll yn ei ganol, e.e. taten sy’n wag yn y canol.
Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 19 August 2009 16:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cwmynyscoy

 

'Cou' ('cau') yn golygu pant sy yma, ife?

 

Roedd ardal a chapel Ynysgau ym Merthyr yn enwog iawn yn eu dydd - cyn i ganol y dre gael ei weddnewid yn y chwedegau.

 


From: David Symons <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 19 August, 2009 3:53:33 PM
Subject: Cwmynyscoy

Pentref bach yn Nhorfaen.

All unrhyw un awgrymu tarddiad yr enw hwn? Rwy'n trio darganfod a yw'r 'y' ar 
y diwedd yn llygriad o fersiwn Cymraeg cynharach neu beidio.

Yr unig enw tebyg ar le rwy'n gallu ei weld yw pentref yn Sir Fynwy - Cwm-iou 
yn Gymraeg ('Cwmyoy' yn Saesneg), sy'n tarddu o siâp y cwm, sydd ar ffurf 
afu/iau.

Tybed a oes tarddiad tebyg i Gwmynyscoy? Unrhyw syniadau?

________________________________________________________________________
This e-mail has been scanned for all viruses by Star Internet. The
service is powered by MessageLabs. For more information on a proactive
anti-virus service working around the clock, around the globe, visit:
http://www.star.net.uk
________________________________________________________________________

This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions, conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund, must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund. If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of this email is strictly prohibited. Additionally, the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000.