Yng ngoleuni’r isod, ydy hi’n bosibl bod y ddogfen yn amrywio’r modd mae’n cyfeirio at yr un peth, yn hytrach na gwahaniaethu rhwng dau fath o ddosbarth? Os nag yw, beth am “less intensive courses”? cyrsiau darnynol: dosbarthiadau sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos ac sy'n parhau fel arfer dros gyfnod o dair blynedd; (Llyfrgell Owen Phrasebook) Mae'r rhaniad rhwng darpariaeth ddarnynol (cyrsiau unwaith-yr-wythnos) a darpariaeth ddwys … (Tystiolaeth Consortiwm Cymraeg i Oedolion Dyfed ar gyfer Adolygiad Polisi o'r Iaith Gymraeg Mewn Addysg y Cynulliad Cenedlaethol) Gwnaethpwyd yr ymchwil drwy holi holl ddysgwyr cyrsiau darnynol (unwaith yr wythnos) Cymraeg i Oedolion Coleg Castell-nedd Port Talbot rhwng 1998 a 2000 am eu profiad dysgu. (“Y Tiwtor”, Cymraeg i Oedolion, CBAC) Dyma’r hyn sydd gan adroddiad Bwrdd yr Iaith i’w ddweud am y mathau o gwrs sydd ar gael: “darnynol a dwys, bloc neu breswyl” Defnyddia un pamffled ar y we “intensive and not so intensive courses” i gyfieithu “cyrsiau darnynol a dwys”. [O chwilio am rywbeth fel ‘learners + darnynol’ yn Google, fe gewch ddogfennau dwyieithog.] Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Post Sent: 04 August 2009 13:06 To: [log in to unmask] Subject: Cyrsiau Darnynol Annwyl Gyfeillion Oes unrhyw un wedi dod ar draws yr uchod? "Cymraeg i Oedolion" yw'r maes, ac wedi hir chwilio, penderfynais ddefnyddio "once a week", yn unol â'r ychydig enghreifftiau sydd ar y we. Yn anffodus, mae'r ddogfen bellach yn cyfeirio at "gyrsiau unwaith-yr-wythnos". Diolch am unrhyw awgrymiadau. Yn gywir Joanne PENNAWD CYF Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.