Print

Print


Dyna syniad da!

Diolch, Ann


On 26 Aug 2009, at 10:25, Ann Corkett wrote:

Cytuno a Carolyn ac Annes – cyfieithu i’r Gymraeg, teitl Saesneg mewn cromfachau, ond hefyd peidio a defnyddio priflythrennau ar gyfer y cyfieithiad, gan mai disgrifiad yn hytrach na theitl ydyw.
Ann

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 24 August 2009 10:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Welsh Culinary Association / Team
 
Dwi'n tueddu i gytuno a Carolyn - dyna fydda i'n ei wneud efo ymddiriedolaethau, cymdeithasau etc.
 
Annes
2009/8/24 Carolyn <[log in to unmask]>
Dw i'n gwybod mod i'n hollol anghyson efo pethau fel hyn - ond - os nad oes
teitl Cymraeg swyddogol a bod yr enw'n un 'creadigol' ac na fyddai'r
cyfieithiad yn ei gwneud hi'n amlwg at ba gorff y cyfeirir, bydda i'n tueddu
i adael y teitl yn Saesneg. Ar y llaw arall, os yw'r teitl yn un sy'n
cyfieithu'n rhwydd ac y  byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei gyfieithu yn yr un
ffordd a'i bod yn amlwg at ba gorff y cyfeirir, fe fydda i'n ei gyfieithu
(ac weithiau'n rhoi'r teitl Saesneg mewn cromfachau'r tro cynta).
Carolyn

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 24 Awst 2009 08:21
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Welsh Culinary Association / Team

Mae hyn wedi codi eto.
Dw i rhwng dau feddwl beth i'w wneud.
Mae gadael y teitlau yn Saesneg yn edrych braidd yn rhyfedd ond, os nad oes
gan y
Gymdeithas na'r Tîm enw swyddogol Cymraeg, oni ddylid adlewyrchu hynny yn y
cyfieithiad?


Siân