'Ddrwg gennym am yr oedi - wedi bod i ffwrdd. >Bog groove-moss - Aulocomnium palustre mwsogl rhychog/grymiog y gors (Ribbed bog moss is named for its distinct spore capsule, which is strongly ribbed,) [Ydy sillafiad y Saesneg yn iawn? - mae dros chwe mil o ganlyniadau ar Google ar gyfer "AulAcomnium palustre" a dim ond ychydig dros dau gant ar gyfer "AulOcomnium palustre"?} >giant spear-moss - Caligeron cuspidatum - 'gwaywfwsogl pigfain' yw 'pointed spear-moss', felly 'gwaywfwsogl >mawr / mwyaf'? gwaywfwsogl mawr (a bwrw nad oes hefyd "great spear-moss"; os felly, byddai "cawraidd" yn bosibl; pe dewisid "mwyaf" yna popeth yn iawn, ond byddai'n rhaid dodi'r fannod o'i flaen - "y gwaywfwsogl mwyaf"). >yellow starry feather-moss - Campylium stellatum - 'plufwsogl' yw 'feather-moss' a 'serennog' yw 'starry' (fel >starry saxifrage' = 'tormaen serennog') felly 'plufwsogl serennog melyn'? Iawn Bruce _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards Sent: 20 August 2009 12:38 To: [log in to unmask] Subject: Mwsoglau Bog groove-moss - Aulocomnium palustre giant spear-moss - Caligeron cuspidatum - 'gwaywfwsogl pigfain' yw 'pointed spear-moss', felly 'gwaywfwsogl mawr / mwyaf'? yellow starry feather-moss - Campylium stellatum - 'plufwsogl' yw 'feather-moss' a 'serennog' yw 'starry' (fel 'starry saxifrage' = 'tormaen serennog') felly 'plufwsogl serennog melyn'? Diolch. Claire Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 53 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd, CF14 2FB. Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 53 Station Road, Llandaff North, Cardiff, CF14 2FB.