Print

Print


Os oes angen, ydw.
Dibynnu ar y cyd-destun.

Tim

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Siān Roberts
Sent: 17 July 2009 11:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'


Dw i ddim yn deall sut y gall gair fod yn rhy blwmp.  Ydych chi'n  
dweud diddosben am het?!

Hwyliogau
Ysiān

On 17 Jul 2009, at 10:55, Saunders, Tim wrote:

> Ydw. A dweud y gwir, rwy'n credu fod rhediad esmwyth term neu  
> ymadrodd bron mor bwysig i'w llwyddiant ag y mae'u cywirdeb manwl.  
> Y mae 'sling' ychydig bach yn rhy blwmp, rwy'n cytuno. Fel mae'n  
> digwydd, gwelais 'teclyn codi' yn derm eithaf cyffredin yn y math  
> yma o gyd-destun.
>
> Yn iach,
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
> vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
> Sent: 17 July 2009 10:45
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>
>
> Iawn, Tim - wna i ddim poeni.  Ond mae rhywbeth o'i le efo 'sling'.
> Dydy o ddim yn ei roi ei hun i rythm yr iaith rywsut.  Mae o'n dechrau
> ac yn gorffen yn blwmp ac yn blaen a fedrwch chi wneud dim efo fo.
> Wyt ti'n deall be sy gen i?
>
> Hwyl a diolch
>
> Eluned
>
> 2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>:
>> Does dim rhaid poeni am ddiflaniad y llafariad ragddodiadol -  
>> neu'n rhy hwyr, efallai. Mae hi'n ddigon gwantan ers rhyw 1,500 o  
>> flynyddoedd.
>>
>> Tim
>>
>> -----Original Message-----
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
>> vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai
>> Sent: 16 July 2009 21:18
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>
>>
>> Ia?  Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir.  Dim ond edrych yn
>> Seisnig mae 'sling' i mi.  Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen
>> llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif?  Tybed oedd hi'n rhyw
>> nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod.  Neu efallai
>> bod ateb digon syml.
>>
>> Sut acen sydd ar yr 'i'?  Does 'na 'run yn GPC.
>>
>> Diolch, Geraint.  Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag.
>>
>> 2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
>>> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y  
>>> 19eg ganrif
>>> sydd ar hwnnw!
>>>
>>> A byddai angen acen ar yr i...
>>>
>>>
>>> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai"  
>>> <[log in to unmask]>
>>> To: <[log in to unmask]>
>>> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM
>>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>
>>>
>>> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling
>>> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai
>>> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani.
>>>
>>> Diolch yn fawr iawn, Siān.  A diolch i bawb eto.
>>>
>>> 2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>:
>>>>
>>>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod  
>>>> cadair
>>>> olwyn"
>>>> ?
>>>>
>>>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote:
>>>>
>>>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n  
>>>>> creu'r
>>>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair
>>>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn
>>>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y  
>>>>> nenfwd' -
>>>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi  
>>>>> dau air
>>>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai
>>>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall  
>>>>> 'dirwynlath'.
>>>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna?
>>>>>
>>>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn  
>>>>> deud yn
>>>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd,  
>>>>> dwed?
>>>>>
>>>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>:
>>>>>>
>>>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro
>>>>>> Eluned?
>>>>>>
>>>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
>>>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical  
>>>>>> terminology and
>>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
>>>>>> Eluned
>>>>>> Mai
>>>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30
>>>>>> At/To: [log in to unmask]
>>>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>>
>>>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth  
>>>>>> damaid yn
>>>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond  
>>>>>> efallai mai
>>>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid.
>>>>>>
>>>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith.
>>>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy  
>>>>>> nghyfanswm
>>>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus!
>>>>>>
>>>>>> Diolch eto am dy gymorth.
>>>>>>
>>>>>> Eluned
>>>>>>
>>>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>>>>>>>
>>>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
>>>>>>>
>>>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng  
>>>>>>> nghronfa Cysgeir
>>>>>>
>>>>>> ond
>>>>>>>
>>>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn  
>>>>>>> rhywffordd ond dyna
>>>>>>
>>>>>> beth
>>>>>>>
>>>>>>> yw e. Gweler
>>>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/ 
>>>>>>> liftech_ceiling_hoist.jpg am
>>>>>>> lun
>>>>>>
>>>>>> o
>>>>>>>
>>>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help.
>>>>>>>
>>>>>>> Hg
>>>>>>>
>>>>>>> -----Original Message-----
>>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and  
>>>>>>> vocabulary
>>>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of  
>>>>>>> Eluned Mai
>>>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50
>>>>>>> To: [log in to unmask]
>>>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist'
>>>>>>>
>>>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch  
>>>>>>> yn dda?
>>>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r  
>>>>>>> symbolau
>>>>>>> hynny
>>>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau).
>>>>>>>
>>>>>>> Llawer o ddiolch
>>>>>>>
>>>>>>> Eluned
>>>>>>>
>>>>>>
>>>>
>>>
>>