Mae gen i ryw go' mai 'gwellhad' mae'r Cynulliad yn ei arddel, ond fedra'i ddim ei ffeindio fo yn Term Cymru chwaith. Dyna be dwi'n ddefnyddio yn y Cofnod beth bynnag. Geraint ----- Original Message ----- From: Carolyn Iorwerth To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, July 01, 2009 8:04 PM Subject: ATB: Upturn Dw i wedi defnyddio 'tro ar fyd' weithiau am hyn Meg ac os yw'r cyd-destun yn glir mae'n gweithio'n weddol - ond bosib nad yw'n ddigon clir mai at y sefyllfa economaidd mae'n cyfeirio os nad yw'r cyd-destun yn amlwg Carolyn ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran MEG ELIS Anfonwyd/Sent: 01 Gorffennaf 2009 19:01 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Upturn Yng nghyd-destun y dirwasgiad, sef y gwrthwyneb iddo. Rwyf wedi meddwl am "adfywiad", ond fe all y gair godi mewn cyd-destunau lle mae son hefyd am "regeneration". Unrhyw syniadau gwell? Diolch ymlaen llaw.