Print

Print


>> A fydd perchnogion Cysill yn dal i fedru diweddaru eu copïau o’r We?

 

Bydd perchnogion Cysill yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth, gan gynnwys
gallu diweddaru eu copïau dros y We.

 

Dylid pwysleisio mai cynnyrch ychwanegol, am ddim yw Cysill Ar-lein. Ni fydd
yn disodli nac yn cymryd lle y fersiwn o Cysill sy’n rhan o becyn Cysgliad. 

 

I’r gwrthwyneb, rydym yn gobeithio y bydd Cysill Ar-lein yn arf marchnata a
fydd yn hyrwyddo gwerthiant Cysgliad ac yn cyfrannu at ddatblygu’r
feddalwedd ymhellach.

 

>> Pa mor wahanol fydd y rhyngwyneb

 

Oherwydd mai gwefan yw Cysill Ar-lein, y mae o ran ei natur yn fwy syml na
rhyngwyneb fersiwn Cysgliad o Cysill. Nid oedd modd i ni atgynhyrchu’r
nodwedd ‘Geiriaduron Personol’, er enghraifft, heb orfodi pob defnyddiwr i
gofrestru.

 

Nid yw Cysill Ar-lein yn cynnwys unrhyw nodweddion ychwanegol nad ydynt i’w
cael yn fersiwn Cysgliad o Cysill. O ganlyniad, ni ddylai fod problem o
safbwynt arholiadau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

 

Cofiwch, cewch gyfle i brofi’r wefan ar ddydd Llun!

 

Cofion,

 

Gruff

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 30 July 2009 12:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: lansio Cysill ar lein

 

Dau gwestiwn, os gwelwch yn dda:

 

A fydd perchnogion Cysill yn dal i fedru diweddaru eu copiau o’r We?

 

Pa mor wahanol fydd y rhyngwyneb, gan gofio y bydd fersiwn presennol Cysill
ar gael i ymgeiswyr arholiadau testun Cymdeithas y cyfieithwyr, ond na fydd
mynediad i’r fersiwn ar y We?

 

Ann

  _____  

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gruffudd Prys
Sent: 30 July 2009 11:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: lansio Cysill ar lein

 

Helo ‘na bobl,

 

Gwefan lle cewch chi wirio sillafu a gramadeg testun Cymraeg am ddim yw
Cysill Ar-lein.  

 

Hynny yw, fersiwn gwe, ‘ar-lein’, o Cysill.

 

Gan ei fod yn gweithio ar ffurf gwefan, bydd modd ei ddefnyddio ar
gyfrifiaduron sy’n rhedeg systemau Mac, Linux a Windows. 

 

Mae hyn yn golygu y bydd gwirio sillafu a gramadeg Cysill ar gael i unrhyw
un sydd â chyfrifiadur gyda chysylltiad i’r we.

 

Ar gyfer cyfieithwyr a’r rhai sy’n ysgrifennu llawer o Gymraeg, bydd y
fersiwn o Cysill sy’n rhan o’r pecyn Cysgliad yn parhau i ddarparu’r profiad
gwaith mwyaf hwylus, cyflawn a phriodol. Serch hynny, gall y wefan barhau i
fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fyddwch chi’n
gorfod ysgrifennu e-bost pwysig o gyfrifiadur lle nad yw Cysill wedi’i osod
arno.

 

Bydd gwefan Cysill Ar-lein yn weithredol ar y 3ydd o Awst (Dydd Llun).

 

Mae ‘na ragflas bach ynghlwm ar ffurf delwedd.  

 

Cofion,

 

Gruff

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 29 July 2009 22:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: lansio Cysill ar lein

 

Da gwod bod rhywun arall wedi drysu hefyd - on i'n meddwl mai fi edd yn dwp.
Fydda i ddim yn steddfod chwaith felly ella medar rhywun ddeud wrtha ni
wedyn be yn union y mae Alun Ffred wedi'i lansio sy'n wahanol i be sy gynnon
ni'n barod....????

 

Annes

2009/7/29 Elin Davies <[log in to unmask]>

Dwi'n reit conffiwsd hefyd - yn enwedig gan bod y linc yn mynd at dudalen
sydd hyd y gwn i wedi bodoli ers cryn dipyn o amser a heb ddim byd newydd
arni. Beth yn union sy'n cael ei lanio? Fersiwn ar-lein am ddim o'r
meddalwedd? Gwefan newydd....? Fyddai ddim yn y Steddfod, felly oni bai ei
fod yn top secret, 'I could tell you but then....' mi fysa'n braf cael
gwybodaeth bach mwy defnyddiol.

2009/7/29 annes gruffydd <[log in to unmask]> 

 

Sori os dwi'n bod yn affwysol o hurt ond on i'n meddwl bod Cysll gynnon nii
ar lein yn barod. Be di'r peth newydd ma ma nhw'n lansio yn steddfod?

 

Annes

 

 


--  
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os
na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw
neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y
neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.
www.bangor.ac.uk 

This email and any attachments may contain confidential material and is
solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
email in error, please notify the sender immediately and delete this email.
If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or
disclose any information contained in this email. Any views or opinions are
solely those of the sender and do not necessarily represent those of the
Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly
stated in the body of the text of the email, this email is not intended to
form a binding contract - a list of authorised signatories is available from
the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk 


-- 
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of the Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk