Mae’n siŵr bod yna ryw les i rywun gael ei gymell i drafod pethau technegol ieithegol fel hyn. (Newid o Wheel in shower ac ati). Dwi’n derbyn mai y glir fyddai’n cael ei hynganu yn bywgraffiadur fel arfer. Ond mi dwi’n amau mai camynganiad ydyw. Mae dau ynganiad i’w glywed ar bywoliaeth - y dywyll ac y glir - y dywyll ddylai fod yno hefyd (ar batrwm llywodraeth, drychiolaeth, cyffelybiaethau ac ati, lle nad yw’r y ar yr acen ychwaith). Felly daliaf i fod yn anniddig gyda sillafiad Tyddewi. (Rhyfedd ydyw darllen fy neges wreiddiol a gweld gwallau: brawddegu anghyflawn a dim ond un n yn plentynnaidd (wel dim ond dwy lle dylai fod yna dair). Oni ddylwn wybod yn well ?) Diolch am dy ymateb ( Mi oedd gen i ofn nad oedd yna neb am wneud) Iwan _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 25 July 2009 09:53 To: [log in to unmask] Subject: Re: Tyddewi Mae'n wir bod y yn troi'n dywyll wrth symud i fod ar yr acen. Ond os cymeri di air lle nad yw'r y ar yr acen dydi hynny ddim yn digwydd o reidrwydd - e.e. byw - bywgraffiadur. Ar yr -ew- y mae'r acen yn Nhyddewi. Wela i ddim byd o'i le ar ysgrifennu Tyddewi. Geraint ----- Original Message ----- From: HYPERLINK "mailto:[log in to unmask]"Iwan Edgar To: HYPERLINK "mailto:[log in to unmask]"[log in to unmask] Sent: Friday, July 24, 2009 7:08 PM Subject: Re: Tyddewi Mi wn mai am yr enw Saesneg mae’r cwestiwn. Ond methu maddau i ofyn, beth am y ffurf Gymraeg ? Ond cywirach i mi fyddai’r hen sillafiad Tŷ Ddewi ? Mae y glir yn troi’n y dywyll wrth newid ei safle mewn gair e.e. mochyn (y glir) - mochynnaidd (y dywyll), plentyn – plentynaidd, byw – bywyd. Hyn yw’r rheol bob tro, hyd y tybiaf. Felly os mai Tŷ yw’r eflen gyntaf rhaid iddo fod ar wahan neu Ty (fel y ty yn tyfu ydyw). Pwy sy’n gyfrifol tybed am Tyddewi ? _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 24 July 2009 17:00 To: [log in to unmask] Subject: Tyddewi Geiriadur yr Academi + Y Gazetteer: Tyddewi = St David’s Gwefan y ddinas + Gwefan yr eglwys gadeiriol = St Davids Pa fersiwn sydd ar yr arwyddion ffyrdd a phethau “swyddogol” eraill? I ba raddau y mae trigolion lle yn cael rhwydd hynt i bennu ei enw (gwell imi beidio a^ so^n am Lan-non yng Ngheredigion)? A oes modd dweud bod un fersiwn o St David[‘] yn fwy cywir/swyddogol na’r llall? Ni welaf unrhyw gyfeiriadau at “Saint David[‘]s. HEFYD Anfonais ddwy neges ar yr un pryd ychydig yn gynharach: on target – mae’r neges wedi cyrraedd yr archif ond heb ddod yn ol ataf innau of stone – dim i’w gweld yn unman (yr awgrym oedd y byddai “creu ffrindiau” yn gliriach na “gwneud ffrindiau”) Gan gofio’r nam ar neges Annes hefyd, a oes ‘na rywbeth yn bod? (‘Rwy’n anfon y neges hon am bump o’r gloch – caf weld pryd bydd yn cyrraedd) Ann Internal Virus Database is out-of-date. Checked by AVG. Version: 7.5.560 / Virus Database: 270.12.26/2116 - Release Date: 15/05/2009 06:16 Internal Virus Database is out-of-date. Checked by AVG. Version: 7.5.560 / Virus Database: 270.12.26/2116 - Release Date: 15/05/2009 06:16 Internal Virus Database is out-of-date. Checked by AVG. Version: 7.5.560 / Virus Database: 270.12.26/2116 - Release Date: 15/05/2009 06:16 Internal Virus Database is out-of-date. Checked by AVG. Version: 7.5.560 / Virus Database: 270.12.26/2116 - Release Date: 15/05/2009 06:16