Print

Print


Diolch Carolyn ac Osian. Dw i'n meddwl y basai 'gwefannau rhannu fideos' yn dderbyniol iawn - yn ôl y testun, dyna a wneir arnynt, sef 'share video clips'.
Glenys

--- On Thu, 2/7/09, Carolyn <[log in to unmask]> wrote:

From: Carolyn <[log in to unmask]>
Subject: ATB: video-hosting sites
To: [log in to unmask]
Date: Thursday, 2 July, 2009, 3:44 PM

Tybed a fyddai 'gwefannau rhannu fideos' yn gwneud y tro, Glenys?

 

Hyd y gwela'i - mae na ddau fath - rhai sy'n cynnig y gwasanaeth am ddim a rhai sy'n ei wneud yn fasnachol - os mai'r rhai sy'n ei wneud am ddim sydd dan sylw - faswn i'n meddwl bod 'rhannu' yn fwy naturiol.

 

Mae diffiniad ar y we:

 

A video hosting service allows individuals to upload video clips to an Internet website. The video host will then store the video on its server, and show the individual different types of code to allow others to view this video. The website, mainly used as the video hosting website, is usually called the video sharing website.

Carolyn

 

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran GLENYS ROBERTS
Anfonwyd/Sent: 02 Gorffennaf 2009 15:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: video-hosting sites

 

Mi fu trafodaeth beth amser yn ôl am 'hosting' a 'web-hosting' ac am wn i mai 'lletya' a 'gwe-letya' oedd y consensws. Alla i felly roi 'gwefannau fideo-letya' am hwn? A ŵyr rhywun yn amgenach?

Diolch

Glenys