Print

Print


Ia, ran'ny - oes yna wahaniaeth gweleidyddol rhwng Prydain, Prydain Fawr,
gwledydd Prydain, y Deyrnas Unedig/Gyfunol?? Mae'r rhestr wledydd sydd gan
y cyngor yn fy mhentre i yn yr Eidal yn gwahaniaethau rhwng Prydain Fawr a'r
Deyrnas Unedig - ydi'r naill yn cynnwys Gogledd Iwerddon a'r llall ddim? Fel
arfer does fawr o ots mae'n siwr gan mai defnydd llac ydi o.

Annes

2009/7/23 Saunders, Tim <[log in to unmask]>

> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eurwyn Pierce
> Jones
> Sent: 23 July 2009 13:31
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: UK alors!
>
>
> UK =  DG / DU ?
>
> Ar un o’m traethodau y bu disgwyl i mi i’w cynhyrchu wrth fynd drwy’r
> brifysgol
> ryw ddeugain mlynedd yn ôl, (ond na fedraf feddwl am ei ailgylchu drwy’r
> fasged bapur hyd eto) mae gen i gofnod balch o lawysgrif un darlithydd tra
> enwog a pharchus, sy’n parhau i belydru gyda phendantrwydd inc arholiadol o
> goch, i fynnu nad cymwys defnyddio’r ymadrodd Teyrnas Gyfunol fel term
> cyfystyr â Phrydain:  “Nid Unedig pob Cyfuniad: dydyw teyrnas wedi ei
> chyfuno o is-ddarnau anghymharus ddim o reidrwydd yn unfrydol unedig!”
> Meddylied!  Beth bynnag, pam ddim defnyddio ‘Prydain' ym mhob achlysur, a
> rhoi diwedd ar yr hen gân acronymllyd yma?
>
> Weithiau, mae'r acronym i fod yn cynnwys 'a Gogledd Iwerddon' hefyd.
>
>
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough
> Council
>
> Gall yr ebost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonir gyda hi, gynnwys deunydd
> cyfrinachol sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio'n unig gan y sawl y cafodd ei
> chyfeirio ato neu ati. Os ydych wedi derbyn yr ebost hon trwy gamgymeriad,
> rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y ebost. Os na fwriadwyd anfon
> y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw
> wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl
> a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Cyngor
> Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
> Cynon Taf yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd
> rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn
> uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio
> contract.  This email and any attachments may contain confidential material
> and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received
> this email in error, please notify the sender immediately and delete this
> email. If  you are not the intended recipient(s), you must not use, retain
> or disclose any information contained in this email. Any views or opinions
> are solely those of the sender and do not necessarily represent those of
> Rhondda Cynon Taf County Borough Council. Rhondda Cynon Taf County Borough
> Council does not guarantee that this email or any attachments are free from
> viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of
> the email, this email is not intended to form a binding contract.
>