gan roi o'r neilltu yr hyn ddwedodd Carolyn am eiliad, os wyt ti am fynd am 'lletya' Glenys, byddwn i'n tueddu i fynd am "gwefannau lletya fideo" / "gwefannau lletya fideos" yn hytrach na gwefannau fideo-letya, dw i'n meddwl. mae 'gwe-letya' ychydig yn wahanol gan mai "lletya rhwbeth [sy heb ei enwi] ar y we" ydech chi. ond mae video-hosting website yn golygu website sy'n hostio fideos, felly swn i'n aros gyda'r drefn honno, h.y. gwefan lletya fideos. neu wrth gwrs, rhannu fel y dwedodd Carolyn, os ydy hynny'n gwneud synnwyr yn y testun sydd dan sylw... mwynhewch eich penwythnosau bawb osian Mi fu trafodaeth beth amser yn ôl am 'hosting' a 'web-hosting' ac am wn i > mai 'lletya' a 'gwe-letya' oedd y consensws. Alla i felly roi 'gwefannau > fideo-letya' am hwn? A ŵyr rhywun yn amgenach? > Diolch > Glenys > 2009/7/2 GLENYS ROBERTS <[log in to unmask]> > Mi fu trafodaeth beth amser yn ôl am 'hosting' a 'web-hosting' ac am wn i > mai 'lletya' a 'gwe-letya' oedd y consensws. Alla i felly roi 'gwefannau > fideo-letya' am hwn? A ŵyr rhywun yn amgenach? > Diolch > Glenys >