Ro'n i'n gwrando ar arbenigwr ar ddyfeisiau i bobl anabl yn siarad heddiw. Roedd e'n defnyddio "hoist" - ac roedd ei Gymraeg yn swnio'n dda iawn. On 18 Jul 2009, at 11:57, Geraint Lovgreen wrote: > Does gen i ddim problem efo'r gair 'sling'. O bentref Sling ger > Tregarth mae John Ogwen a Gwynfor ab Ifor yn dod. > > Geraint > > ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Friday, July 17, 2009 10:45 AM > Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' > > > Iawn, Tim - wna i ddim poeni. Ond mae rhywbeth o'i le efo 'sling'. > Dydy o ddim yn ei roi ei hun i rythm yr iaith rywsut. Mae o'n dechrau > ac yn gorffen yn blwmp ac yn blaen a fedrwch chi wneud dim efo fo. > Wyt ti'n deall be sy gen i? > > Hwyl a diolch > > Eluned > > 2009/7/17 Saunders, Tim <[log in to unmask]>: >> Does dim rhaid poeni am ddiflaniad y llafariad ragddodiadol - >> neu'n rhy hwyr, efallai. Mae hi'n ddigon gwantan ers rhyw 1,500 o >> flynyddoedd. >> >> Tim >> >> -----Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Eluned Mai >> Sent: 16 July 2009 21:18 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >> >> >> Ia? Dwi ddim yn gwybod y ffeithiau a deud y gwir. Dim ond edrych yn >> Seisnig mae 'sling' i mi. Wyt ti'n gwybod pam roedd 'na 'y' o flaen >> llawer o eiriau Cymraeg yn y 19eg ganrif? Tybed oedd hi'n rhyw >> nodwedd o'r iaith rydan ni'n prysur golli heb yn wybod. Neu efallai >> bod ateb digon syml. >> >> Sut acen sydd ar yr 'i'? Does 'na 'run yn GPC. >> >> Diolch, Geraint. Rhywbeth i feddwl amdano, beth bynnag. >> >> 2009/7/15 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>: >>> Dwi'n meddwl bod "sling" yn gymreiciach nag "ysling" - blas y >>> 19eg ganrif >>> sydd ar hwnnw! >>> >>> A byddai angen acen ar yr i... >>> >>> >>> ----- Original Message ----- From: "Eluned Mai" >>> <[log in to unmask]> >>> To: <[log in to unmask]> >>> Sent: Wednesday, July 15, 2009 10:33 PM >>> Subject: Re: ATB: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >>> >>> >>> Ia, mae'r rheina'n ddigon taclus a digon byr, on'd ydyn - 'ysling >>> nenfwd' (mae o'n swnio dipyn bach yn fwy Cymreig efo'r 'y', er mai >>> benthyciad ydy o 'run fath) a 'cawod cadair olwyn' amdani. >>> >>> Diolch yn fawr iawn, Siān. A diolch i bawb eto. >>> >>> 2009/7/15 Siān Roberts <[log in to unmask]>: >>>> >>>> Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod >>>> cadair >>>> olwyn" >>>> ? >>>> >>>> On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote: >>>> >>>>> Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n >>>>> creu'r >>>>> picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair >>>>> codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn >>>>> lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y >>>>> nenfwd' - >>>>> 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi >>>>> dau air >>>>> hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai >>>>> basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall >>>>> 'dirwynlath'. >>>>> 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna? >>>>> >>>>> Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn >>>>> deud yn >>>>> union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, >>>>> dwed? >>>>> >>>>> 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>: >>>>>> >>>>>> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro >>>>>> Eluned? >>>>>> >>>>>> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- >>>>>> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical >>>>>> terminology and >>>>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran >>>>>> Eluned >>>>>> Mai >>>>>> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30 >>>>>> At/To: [log in to unmask] >>>>>> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >>>>>> >>>>>> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth >>>>>> damaid yn >>>>>> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond >>>>>> efallai mai >>>>>> gwneud lle rhywsut fydd raid. >>>>>> >>>>>> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith. >>>>>> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy >>>>>> nghyfanswm >>>>>> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus! >>>>>> >>>>>> Diolch eto am dy gymorth. >>>>>> >>>>>> Eluned >>>>>> >>>>>> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>: >>>>>>> >>>>>>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn? >>>>>>> >>>>>>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng >>>>>>> nghronfa Cysgeir >>>>>> >>>>>> ond >>>>>>> >>>>>>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn >>>>>>> rhywffordd ond dyna >>>>>> >>>>>> beth >>>>>>> >>>>>>> yw e. Gweler >>>>>>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/ >>>>>>> liftech_ceiling_hoist.jpg am >>>>>>> lun >>>>>> >>>>>> o >>>>>>> >>>>>>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help. >>>>>>> >>>>>>> Hg >>>>>>> >>>>>>> -----Original Message----- >>>>>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>>>>> vocabulary >>>>>>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of >>>>>>> Eluned Mai >>>>>>> Sent: 12 July 2009 15:50 >>>>>>> To: [log in to unmask] >>>>>>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >>>>>>> >>>>>>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch >>>>>>> yn dda? >>>>>>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r >>>>>>> symbolau >>>>>>> hynny >>>>>>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau). >>>>>>> >>>>>>> Llawer o ddiolch >>>>>>> >>>>>>> Eluned >>>>>>> >>>>>> >>>> >>> >>