Beth am rywbeth fel "sling nenfwd" neu "hoist nenfwd" a "cawod cadair olwyn" ? On 15 Jul 2009, at 00:50, Eluned Mai wrote: > Basa, mi fasa - ond y ffaith ei fod o'n sownd yn y nenfwd sy'n creu'r > picil, achos mae 'na fwy nag un math o declyn codi. A dydy 'cadair > codi sy'n crogi o'r nenfwd' ddim yn swnio'n iawn ar gyfer llyfryn > lleoliadau gwyliau rhywsut - nac ychwaith 'sy 'nghlwm wrth y nenfwd' - > 'sy'n dirwyn i lawr o'r nenfwd'. Pam y mae'r Sais yn cael rhoi dau air > hefo'i gilydd mor dwt a ninna'n gorfod bod mor hirwyntog? Efallai > basa 'dirwynlath nenfwd' yn iawn ond fasa neb yn deall 'dirwynlath'. > 'Cawod cadair olwyn' - ga i neud hynna? > > Beth bynnag, llawer o ddiolch, Carolyn. Mae 'cadair codi' yn deud yn > union beth ydy o - oes rhaid iddo fo fod yn sownd yn y nenfwd, dwed? > > 2009/7/14 Carolyn <[log in to unmask]>: >> Fasai rhywbeth fel 'cadair codi' neu 'sling codi' yn gwneud y tro >> Eluned? >> >> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- >> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology >> and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran >> Eluned Mai >> Anfonwyd/Sent: 14 Gorffennaf 2009 09:30 >> At/To: [log in to unmask] >> Pwnc/Subject: Re: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >> >> Llawer iawn o ddiolch, Huw. Roeddwn i'n chwilio am rywbeth damaid yn >> fwy cryno am y math yma o gawod gan fod lle yn brin, ond efallai mai >> gwneud lle rhywsut fydd raid. >> >> Diolch yn fawr iawn am y llun! Bydd yn her i roi meddwl ar waith. >> Efallai na ddaw na ddim ar ddiwedd y dydd ac mi fydd fy nghyfanswm >> geiriau a gyfieithwyd wedi disgyn yn drychinebus! >> >> Diolch eto am dy gymorth. >> >> Eluned >> >> 2009/7/13 Huw Garan <[log in to unmask]>: >>> Cawod addas ar gyfer cadeiriau olwyn? >>> >>> Ddim yn siwr am y ceiling hoist. Teclyn codi sydd yng nghronfa >>> Cysgeir >> ond >>> 'dyw 'teclyn codi yn y nenfwd' ddim yn swnio'n iawn rhywffordd >>> ond dyna >> beth >>> yw e. Gweler >>> http://www.dolphinmidlands.co.uk/graphics/ >>> liftech_ceiling_hoist.jpg am lun >> o >>> 'ceiling hoist' os yw hynny'n help. >>> >>> Hg >>> >>> -----Original Message----- >>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>> vocabulary >>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai >>> Sent: 12 July 2009 15:50 >>> To: [log in to unmask] >>> Subject: 'Wheel-in shower' a 'ceiling hoist' >>> >>> Oes gan rywun derm cryno am unrhyw un o'r uchod, os gwelwch yn dda? >>> Maent yn ymddangos ar dudalen o symbolau fel eglurhad i'r >>> symbolau hynny >>> (mewn llyfryn lleoliadau gwyliau i bobl ag anableddau). >>> >>> Llawer o ddiolch >>> >>> Eluned >>> >>