Dwi'n cytuno bod "-unol" yn swnio'n fwy unol nag "-edig", dyna pam mae'n well gen i "Unedig". O ran USA, tueddu i roi "yr Unol Daleithiau" fydda i. Geraint ----- Original Message ----- From: "David Bullock" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, July 10, 2009 3:27 PM Subject: Re: UK alors! > Heblaw am statws cyfreithio y ffurf, mae "unedig" yn *swnio* yn nes ati i > fi > na "cyfunol". > > Mae'r "-edig" yn awgrymu i fi mai rhywbeth wedi cael ei uno yw'r deyrnas > (ac > nad oedd yn un o'r dechrau felly), ond mae "-unol" yn swnio fel pe bai yna > deimlad organig o undod o'r tu mewn i adrannau'r deyrnas. > > > > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, > Tim > Anfonwyd/Sent: 10 Gorffennaf 2009 15:08 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: UK alors! > > Ddim yn anghytuno gyda'th resymwaith, ond 'Teyrnas Unedig' sydd wedi > ennill > ei phlwyf yn neddfwriaeth y Cynulliad, ac felly dyna'r ffurf sy'n meddu > fwyaf ar rym cyfraith. > > Tim > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Gorwel Roberts > Sent: 10 July 2009 15:04 > To: [log in to unmask] > Subject: UK alors! > > > UK alors! > > O ran UK a'r DU ac ati beth mae pawb yn ei ffafrio? > > Y Deyrnas Unedig ynteu'r Deyrnas Gyfunol? Y DU ynteu'r DG? > > Credaf mai'r Deyrnas Gyfunol sydd orau oherwydd mai teyrnas sy'n gyfuniad > yw'r Deyrnas Gyfunol - 'united' yn yr ystyr ei bod wedi ei rhoi ynghyd yn > hytrach nag 'united' oherwydd ei bod yn 'unedig'. > > Byddai'n dda petai rhyw fath o gytundeb ynglyn a hyn yn hytrach na bod dau > derm ar waith > > Gas gen i'r DU neu'r DG acronym wrth reswm. Sylwaf nad oes cysondeb yn > Term > Cymru - weithiau defnyddir yr acronym ac weithiau ysgfifennir yr enw'r > llawn. > > Oni fyddai'n bosibl penderfynu defnyddio un term dealladwy (a gaf i gynnig > 'Y Deyrnas Gyfunol'?) a darbwyllo pawb nad yw y DU na'r DG yn glir nac yn > ddealladwy i neb ond cyfieithwyr? > > Os oes rhaid i ni fyw yn y Deyrnas Gyfunol beth am i ni ei galw wrth enw > synhwyrol? > > Gorwel > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 8.5.375 / Virus Database: 270.13.9/2228 - Release Date: 07/09/09 > 18:07:00 >