O chwilio’n frysiog ar y we, mae llawer o gyfieithwyr i ac
o wahanol ieithoedd ac asiantaethau cyfieithu’n dweud pethau fel
“Average translation capacity is 2000-3000 words of source
text per day, dependent on subject area.”
Rhyw 2000 o eiriau’r dydd yw’r nifer a welais i
amlaf, gyda’r ystod yn amrywio o 1000-2000 i 2000-3000, at ei gilydd.
Claire
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 02 June 2009 08:47
To: [log in to unmask]
Subject: amser i gyfieithu
Annwyl gyfeillion
Maddeuwch gwestiwn sy ddim byd i neud â thermau, ond ro'n i'n meddwl mai dyma'r
lle gore i ofyn hyn.
Tybed oes rhywun yn gwybod am unrhyw ganllawiau neu rywbeth tebyg sy'n sôn
faint o amser y mae cyfieithu yn ei gymryd? Rydyn ni'n ein cael ein hunain yn
aml yn gorfod amddiffyn y ffaith na allwn ni ddychwelyd ugain mil o eiriau (sy
heb gyrraedd gan nad yw'r gwreiddiol wedi ei orfffen eto, ond sy ar y
ffordd...) erbyn drennydd. Enghraifft yw hyn, wrth gwrs, ond heb fod ymhell o'r
gwir yn anffodus. Dw i'n ddigon parod i amddiffyn crefft cyfieithu rhag y fath
afreswm, ond roedd fy nghydweithreg yn meddwl falle bod na rywbeth swyddogol
fydde'n helpu i'n cefnogi ni, i ddangos nad jyst ni sy'n
aneffeithlon/lletchwith...
Diolch yn fawr ichi,
Osian