O chwilio'n frysiog ar y we, mae llawer o gyfieithwyr i ac o wahanol ieithoedd ac asiantaethau cyfieithu'n dweud pethau fel "Average translation capacity is 2000-3000 words of source text per day, dependent on subject area." Rhyw 2000 o eiriau'r dydd yw'r nifer a welais i amlaf, gyda'r ystod yn amrywio o 1000-2000 i 2000-3000, at ei gilydd. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 02 June 2009 08:47 To: [log in to unmask] Subject: amser i gyfieithu Annwyl gyfeillion Maddeuwch gwestiwn sy ddim byd i neud â thermau, ond ro'n i'n meddwl mai dyma'r lle gore i ofyn hyn. Tybed oes rhywun yn gwybod am unrhyw ganllawiau neu rywbeth tebyg sy'n sôn faint o amser y mae cyfieithu yn ei gymryd? Rydyn ni'n ein cael ein hunain yn aml yn gorfod amddiffyn y ffaith na allwn ni ddychwelyd ugain mil o eiriau (sy heb gyrraedd gan nad yw'r gwreiddiol wedi ei orfffen eto, ond sy ar y ffordd...) erbyn drennydd. Enghraifft yw hyn, wrth gwrs, ond heb fod ymhell o'r gwir yn anffodus. Dw i'n ddigon parod i amddiffyn crefft cyfieithu rhag y fath afreswm, ond roedd fy nghydweithreg yn meddwl falle bod na rywbeth swyddogol fydde'n helpu i'n cefnogi ni, i ddangos nad jyst ni sy'n aneffeithlon/lletchwith... Diolch yn fawr ichi, Osian