Yn falch o gael y cadarnhad yna, yn enwedig y cyfeiriad gan Mary at y Golygiadur - wedi bod yn chwilio trwy'r bore yn P.W.T. am gyfiawnhad dros newid brawddegau fel hyn wrth olygu testun!
Rwy'n cofio dadlau hefyd ynglŷn â hyn â darlithydd yn y Gymraeg oedd yn mynnu bod angen yr ail 'i'. Ydy o'n rhywbeth tafodieithol tybed?
Diolch
Glenys
--- On Thu, 25/6/09, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

From: Mary Jones <[log in to unmask]>
Subject: Re: i neu beidio
To: [log in to unmask]
Date: Thursday, 25 June, 2009, 11:58 AM

Y cynta sy’n gywir yn y ddwy enghraifft. Mae Rhiannon Ifans yn gosod y peth allan yn glir yn y Golygiadur, tud. 363.

Mary

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GLENYS ROBERTS
Sent: 25 June 2009 11:45
To: [log in to unmask]
Subject: i neu beidio

 

A all rywun helpu i dorri dadl os gwelwch yn dda? Pa rai o'r rhain sy'n gywir? -

 

Mae hyn yn gyfle ichi ymateb ... / Mae hyn yn gyfle ichi i ymateb ...

 

Mae’n ffordd i chi ddangos ... / Mae’n ffordd i chi i ddangos ...

 

Diolch

Glenys