Ond dydio ddim gwahaniaeth, mae David yn gwneud pwynt dilys - nid "chwe phump" sydd yno - yr A pedwar chwech pump ydi rhif y ffordd, beth bynnag ydi'r rhesymeg! Yr A pedwar chwech pump = A465 Yr A pedwar chwe phump = A4555555 Geraint ----- Original Message ----- From: GLENYS ROBERTS To: [log in to unmask] Sent: Thursday, June 18, 2009 1:57 PM Subject: Re: 155th - y frawddeg gyfan !! Ond a bod yn deg, dw i ddim yn meddwl mai 'the 465th A (road)' yw ystyr A465. Mae 'na ryw resymeg ynglŷn â rhifo ffyrdd nad ydw i erioed wedi ei deall. Rhywbeth ynglŷn â ffyrdd sy'n tarddu o'r/cysylltu â'r A5 yn mynd yn A55 neu A557 etc.? Glenys --- On Thu, 18/6/09, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote: From: Mary Jones <[log in to unmask]> Subject: Re: 155th - y frawddeg gyfan To: [log in to unmask] Date: Thursday, 18 June, 2009, 1:42 PM Sgwn i ai’r un darllenydd newyddion soniodd, ychydig ddiwrnodau’n gynharach, am sylwadau gan ynghynghorydd RHYWIOL ar fater yn ymwneud ag addysg rhyw! Waw! A gaf fi ei gyfeiriad, plis? Mary ---------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock Sent: 18 June 2009 11:41 To: [log in to unmask] Subject: Re: 155th - y frawddeg gyfan Mae’r dewisiadau bron yn ddi-ben-draw: o “… cynnal eu sioe flynyddol rhif cant pum deg pump” yn y pen mwya syml i “cynnal eu pymthegfed sioe flynyddol a deugain wedi’r cant” yn y pen lleia syml. Gyda llaw, roedd hi’n ddiddorol clywed rhywun ar y weiarles ddoe yn galw’r A465 yn “A pedwar chwe phump”. Rwy’n credu mai A4555555 fyddai hynny, ife ?! ---------------------------------------------------------------------- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Meinir Thomas Anfonwyd/Sent: 18 Mehefin 2009 11:27 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: 155th - y frawddeg gyfan Haia Huw! Dyma'r frawddeg - "The Cardigan County show will be holding their 155th annual show on Wednesday 29th July..." Cofion cynnes, Meinir No virus found in this incoming message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 8.5.339 / Virus Database: 270.12.77/2184 - Release Date: 06/17/09 17:55:00