Cant pum deg a phumed yn swnio'n iawn i mi.
 
Efo rhifau mawr ar raglenni fel "Sgorio" maen nhw'n tueddu i ddweud "mae'n ennill cap rhif cant dau ddeg tri dros ei wlad" yn hytrach na "ei gant dau ddeg a thrydydd cap" felly mae hynny'n un ffordd o osgoi'r broblem.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Meinir Thomas
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, June 18, 2009 10:55 AM
Subject: 155th

Helo, shwmai?
 
Ai cant pum deg a phumed yw 155th yn y Gymraeg? Mae e ar gyfer hysbyseb radio, felly mae'n rhaid i'r darllenydd wybod sut i'w ddweud yn iawn.
 
Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.
 
Cofion gorau,
 
Meinir