Dwi'n hoffi'r cynnig hwnnw'n fawr. Huw -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Carolyn Anfonwyd/Sent: 10 June 2009 12:55 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: ATB: Count me in Os mai'r ergyd yw cael mil o enwau - bosib y gellid rhoi rhywbeth fel 'Dw i'n un o fil' Carolyn -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Tegid Anfonwyd/Sent: 10 Mehefin 2009 12:12 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: ATB: Count me in Helo Alwyn, Mi ffoniodd rhywun acw wythnos diwethaf yn gofyn am gyfieithiadau posibl ar gyfer yr ymadrodd hwn. Soniodd y byddai'n hoffi cadw'r cyfeiriad at 'gyfrif', felly'r cynnig cychwynnol a roddais iddi oedd: '1000 o Fywydau: Gwnaf ar bob cyfrif' Dywed gwefan yr ymgyrch mai "Nod yr 'Ymgyrch 1000 o Fywydau' yw lleihau risgiau i ddiogelwch cleifion drwy roi ymyriadau sy'n achub bywydau ar waith, sydd wedi cael eu datblygu gan glinigwyr yng Nghymru." Nod arall yw perswadio 1000 o weithwyr iechyd i ymuno â'r cynllun, a thrwy hynny ddweud "count me in", fel petai. Bydd lluniau'r 1000 yn ymddangos ar bosteri ac ati. Byddai'n braf clywed gan aelodau'r cylch os oes gan rywun gynnig gwell na'r un a roddais i lenwi'r bwlch. Cofion gorau, Huw -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Alwyn Richards Anfonwyd/Sent: 10 June 2009 11:47 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Count me in Oes gan unrhyw un syniad am hwn. Enw ar brosiect ydyw felly mae angen iddo fod yn fachog. '1000 Lives: Count Me In' ydy'r teitl llawn Diolch