Apologies for cross posting - English version to follow.
AMGUEDDFEYDD, ARCHIFAU A LLYFRGELLOEDD -
Cefnogi Dysgu Cyfnod Sylfaen yn yr Awyr Agored
Lleoliad:
1 Medi 2009, Court Colman Manor Pen-y- Bont Ar Ogwr
3 Medi 2009, Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam
AMSER: 9.00 - 15.30
Mae hyn yn gyfle i wasanaethau Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd i ddatblygu beth bynnag fannau awyr agored sydd ganddynt i gefnogi gweithgareddau dysgu Cyfnod Sylfaen. Mae’n cyflwyno cyfle i gyfathrebu a datblygu cysylltiadau nid yn unig gydag ymarferwyr yn y maes, ond hefyd gydag arddangoswyr sydd â diddordeb mewn cefnogi trosglwyddiad y Cyfnod Sylfaen.
Mae’r gweithdai yn addas ar gyfer staff amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau sy'n ymwneud â gweithgareddau ar gyfer plant yn oedran y Cyfnod Sylfaen (3 - 7 oed), neu sy’n gobeithio datblygu’r maes yma.
Amcanion:
· I ddangos mewn ffordd ymarferol sut mae modd defnyddio’r awyr agored i gyflenwi’r Cyfnod Sylfaen - pa bynnag faint neu ardal fo hynny.
· Rhoi enghreifftiau o sut mae prosiectau megis “Words in the Woods” yn gallu helpu i gyflenwi saith Maes Dysgu Fframwaith y Cyfnod Sylfaen
· Meithrin ac atgyfnerthu cysylltiadau ar lefel leol a chenedlaethol trwy farchnad o stondinau arddangos
Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau gan Theatr Iolo a Learning Through Landscapes Cymru:
· Bydd Theatr Iolo yn esbonio trefn prosiect Words in the Woods a sut y gwnaeth y prosiect helpu’r plant i feithrin sgiliau iaith. Bydd y rhan hon o’r diwrnod yn cynnwys cyflwyno storïau, dan arweiniad hwylusydd/storïwr. Bydd dau actor yn perfformio’r storïau yn y coed.
· Bydd Learning Through Landscapes Cymru yn rhoi i ymarferwyr enghreifftiau o sut maent yn gallu datblygu’u darpariaeth awyr agored. Bydd hyn yn cynnwys ardaloedd tu allan i’w lleoliad a /neu'r defnydd o lefydd cyfyngedig.
Trefnir y gweithdai yma ar y cyd rhwng CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a DCELLS (Adran Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau). Ni chodir tâl am fynychu. Darperir cinio a lluniaeth. Gan fod rhan sylweddol o’r diwrnod yn cael ei gynnal y tu allan, cynghorwyr mynychwyr i wisgo’n addas.
I archebu lle: cysylltwch gyda Helen Lyall Williams ar [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> neu 01970 610244.
Dyddiad cau: 7 August 2009.
Gethin Evans
Access, Learning & ICT Assistant / Cynorthwy-ydd Mynediad, Dysgu a TGCh
Welsh Assembly Government / Llywodraeth Cynulliad Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales / Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd
Unit 10, Science Park
Aberystwyth SY23 3AH
fax: 01970 610223 ( 01970 610230
: [log in to unmask]
Hapus i gyfathrebu'n Saesneg neu yn y Gymraeg/Happy to communicate in English or Welsh