Print

Print


Tybed a oes rhywun wedi dod ar draws spin-ins? Maent yn yr un maes â spinouts. Os deallwn yn iawn, yng nghyd-destun prifysgolion, spinouts yw’r cwmnïau hynny sydd wedi cychwyn fel syniad mewn labordy ymchwil yn y brifysgol, falle, ac sydd wedyn yn tyfu i fod yn gwmni mawr ‘go iawn’...

Fel y byddech yn ei ddisgwyl falle, mae spin-ins, mae’n debyg, yn gweithio y ffordd arall h.y. cwmni mawr sy’n dod yn ôl i mewn i brifysgol er mwyn manteisio ar eu harbenigedd ac ati.

‘Cwmnïau deillio’ sy’n cael ei arfer ar gyfer spinouts. Tybed a oes gan rywun air am spin-ins?

Diolch yn fawr,

Osian