Mewn amser, mae'n debyg y daw 'to skim' yn y Saesneg yn derm cyfarwydd i bawb am y math yma o drosedd a dw i'n gweld dim o'i le gyda defnyddio'r un term yn y Gymraeg - rydan ni'n defnyddio 'sgim' yn barod (e.e. llefrith sgim) ac mae'n cyfleu i'r dim y weithred o sganio neu lithro rhywbeth dros y stribed i ddwyn y manylion.
Date: Thu, 14 May 2009 11:26:57 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Skimming Offences
To: [log in to unmask]
Troseddau perthnasol i gardiau credyd yw’r rhain sy’n cael eu cyflawni ger peiriannau ‘twll yn y wal’, lle mae troseddwyr yn dwyn manylion o’r stribyn magnetig ar y cerdyn, ac yn defnyddio camerâu bach iawn i gofnodi rhif PIN y defnyddiwr.
A fyddai Troseddau Sgimio yn gwneud y tro neu, o ystyried fod hynny’n cyfleu darlun o droseddwr yn sefyll ar lan Llyn Geirionnydd yn ceisio taro cychod efo cerrig llyfn, a fyddai’n well creu term mwy disgrifiadol yn y Gymraeg – rhywbeth fel ‘troseddau dwyn manylion cardiau credyd’ o bosib?
John Puw
GRNCM; TAR / PGCE;
Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Full Member of Association of Welsh Translators and Interpreters
Cyfieithydd / Translator
Uned Gyfieithu / Translation Unit
Adran Gwasanaethau Iaith Gymraeg / Welsh Language Services Department
Ffôn / Tel: 01492 641958
Est / Ext: 05135
E-bost / E-mail: [log in to unmask]
Gwefan / Website: http://www.mndassociation.org/shop/reflections_in.html
http://www.youtube.com/watch?v=z7y9hBCgtCY
http://www.youtube.com/watch?v=rpqlSAzV71M
Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.
This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be official policy. Thank you for your co-operation.
North Wales Police
_________________________________________________________________
Beyond Hotmail — see what else you can do with Windows Live.
http://clk.atdmt.com/UKM/go/134665375/direct/01/