Taflen, taflenni; rhaglen, rhaglenni.
Beth yw tarddiad y –len yn y rhain? Ac ydy’r –len yn ffuglen yn cael ymddwyn yn wahanol i’r –len yn taflen a rhaglen? (Heb sôn am fathaidau diweddar iawn fel taenlen, dewislen, cwymplen, sydd i gyd yn dyblu’r n am wn i.)
Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar
ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 04 Mai 2009 14:28
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Fictional
Ateb dros dro:
Bydd gofyn ymholi ynghylch hyn, ond ofnaf fod “ffuglenol” yn gywirach; osgoer, a defnyddio “ffuglen” fel ansoddair lle bo modd, e.e. “gweithiau ffuglen”!
Bruce
From:
Discussion of Welsh language technical terminology
and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of CATRIN ALUN
Sent: 04 May 2009 13:27
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Fictional
Dwi'n cytuno'n llwyr Meg - ond yn ei chael hi'n anodd darbwyllo fy narllenydd (un neu ddwy 'n'!!)
Dydy hi ddim yn wlyb yn Abertawe ar y funud - ond yn bendant ddim yn ddigon braf i fynd allan i wneud dim byd!!
Catrin
From: MEG ELIS
<[log in to unmask]>
To:
[log in to unmask]
Sent: Monday, 4 May, 2009 1:12:42
PM
Subject: Re: Fictional
Catrin,
Fel un nad yw'n ramadegydd o gwbl, fy ngreddf i yw defnyddio dwy 'n' . Dyma'r rhesymau: i. onid oes modd dadlau mai "llenyddiaeth" yw'r gair y mae'n tarddu ohono beth bynnag? ii. Mae'r glust yn dweud dwy 'n' iii. Egwyddor Ifor Williams - "Mi fydda'i o hyd yn cadw ambell i 'n' yn sbar - rhag ofn!
Be arall mae rhywun i'w wneud ar Wyl Banc gwlyb????
Meg
|
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 8.0.238 / Virus Database: 270.12.18/2096 - Release Date: 05/04/09 17:51:00