Catrin,
Fel un nad yw'n ramadegydd o gwbl, fy ngreddf i yw defnyddio dwy 'n' . Dyma'r rhesymau:
i. onid oes modd dadlau mai "llenyddiaeth" yw'r gair y mae'n tarddu ohono beth bynnag?
ii. Mae'r glust yn dweud dwy 'n'
iii. Egwyddor Ifor Williams - "Mi fydda'i o hyd yn cadw ambell i 'n' yn sbar - rhag ofn!
Be arall mae rhywun i'w wneud ar Wyl Banc gwlyb????
From: CATRIN ALUN <[log in to unmask]> Subject: Fictional To: [log in to unmask] Date: Monday, 4 May, 2009, 12:59 PM
Un 'n' neu ddwy?!
Mae Geiriadur yr Academi'n rhestru 'ffuglennol' (T524), a dyna ddefnyddiais i yn fy ngwaith - ond wedi ei gael yn ôl, mae wedi ei newid i 'ffuglenol' - a dyma'r rheswm a roddwyd:
Y rheol fel y dysges i oedd bod yr ‘n’ yn dibynnu ar natur y llafariad yn y bôn, nid ar yr ynganiad, gan fod ynganiad llafariad bôn yn newid, e.e. llên > darllen > darllenodd, ac fe ddwedwn i mai’r un llên’ sydd yn ffug-lên > ffuglen > ffuglenol.
Ydy Geiriadur yr Academi yn anghywir felly - mae'n cael ei restru ddwy waith (dan fictional a fictionalized) - dwi ddim yn gallu ffeindio'r gair mewn unrhyw eiriadur arall!!
Diolch!
Catrin
|