Diolch Geraint - rhywbeth i'w gadw mewn cof. On 24 Apr 2009, at 12:46, Geraint Lovgreen wrote: > Dwi wedi gweld y gair "perthnasoedd" yn cael ei ddefnyddio i > gyfieithu "relationships" - mae'n edrych yn od i mi. Dwi'n teimlo > bod Cymraeg yn wahanol i'r Saesneg yn hyn o beth, gan fod y Saesneg > yn gallu rhoi ffurf luosog i eiriau haniaethol, a'r Gymraeg ddim. > > "Perthynas" fyddwn i'n bersonol yn ei ddweud yn Gymraeg bob tro. > Wedi'r cyfan, mae'r Saeson yn gallu sôn am "friendships" hefyd a > does neb yn dweud "cyfeillgarychau" yn Gymraeg. > > Geraint