Dwi wedi gweld y gair "perthnasoedd" yn cael ei
ddefnyddio i gyfieithu "relationships" - mae'n edrych yn od i mi. Dwi'n
teimlo bod Cymraeg yn wahanol i'r Saesneg yn hyn o beth, gan fod y Saesneg yn
gallu rhoi ffurf luosog i eiriau haniaethol, a'r Gymraeg ddim.
"Perthynas" fyddwn i'n bersonol yn ei ddweud yn
Gymraeg bob tro. Wedi'r cyfan, mae'r Saeson yn gallu sôn am "friendships" hefyd
a does neb yn dweud "cyfeillgarychau" yn Gymraeg.
Geraint