Sous-chef fel arfer yw dirprwy bennaeth y gegin (dirpryw i'r Chef de Cuisine ('head chef') neu'r 'executive chef', sy'n fwy o relowr (meddyliwch am bobl fel Gordon Ramsay): rhywun newydd ddechrau neu gymhwyso yw comis - ychydig yn uwch na KP (porthor cegin) yn nhrefn y gegin ond yn was bach i holl gogyddion ei adran. Mae'r holl system braidd yn gymhleth a dryslyd ond gweler http://en.wikipedia.org/wiki/Chef am esboniad gweddol gryno. Hg -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Siān Roberts Sent: 16 April 2009 09:47 To: [log in to unmask] Subject: Re: chef / cook Mae'n cymhlethu! Mae gen i "head chef" (prif bencogydd?) a "commis chef" (dirprwy bencogydd?) erbyn hyn. Ro'n i'n meddwl bod y "pen" yn gwneud iddo swnio fel "pennaeth" ond mae'n siwr ei fod yn gweithio ar yr un egwyddor ā "pensaer". Geith y "cook in charge" fod yn "gogydd ā gofal". Hwyl Siān On 15 Apr 2009, at 19:04, Geraint Lovgreen wrote: > Ystyr y gair Ffrangeg "chef" yn llythrennol ydi "pennaeth" - gallech > feddwl amdano fel "chief cook". Felly mae pencogydd yn iawn. Ond tybed > a ydi 'uwch-gogydd' yn swnio'n fwy fel 'senior cook' na 'head chef'? I > fi mae o'n swnio'n is na phencogydd, beth bynnag! > > ----- Original Message ----- From: "Huw Garan" > <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, April 15, 2009 4:47 PM > Subject: Re: chef / cook > > > Dim cweit. Pan adawais i'r brifysgol, es i weithio mewn gwesty yn y > dre' > fel chef dan hyfforddiant am ddwy flynedd gan ddilyn cwrs hyfforddiant > proffesiynol yn y coleg trydyddol lleol. Cogydd yw unrhyw berson sy'n > coginio ond mae chef wedi cael neu wrthi'n derbyn hyfforddiant > proffesiynol yn y diwydiant arwlyo a lletygarwch, gan gynnwys astudio > coginio, theori bwyd, dysgu am gynhwysion a chyfuniadau, diod, > cyflwyniad bwyd. > > Os cogydd yw 'cook', a phen-cogydd yw chef, beth am 'uwch-gogydd' > ar gyfer > 'head chef'? > > Hg > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of > Carolyn Iorwerth > Sent: 15 April 2009 14:46 > To: [log in to unmask] > Subject: ATB: chef / cook > > Hyd y gwela' - mae 'chef' yn golygu 'pennaeth ar lond cegin o 'cooks' > neu 'bennaeth ar adran benodol mewn cegin' sy'n arwain tīm. Mae > 'pencogydd' yn awgrymu i fi bod pawb arall yn y gegin yn 'gogyddion' > (chefs) hefyd ond dydyn nhw ddim - 'cooks' ydyn nhw ar y cyfan. > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: > Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen > Anfonwyd/Sent: 15 Ebrill 2009 13:24 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: chef / cook > > Dwi'n meddwl y baswn i'n rhoi "cogydd" am "cook" a "phencogydd" (heb y > cysylltnod ella? fel pencampwr) am "chef". Wedyn mi fase "head chef" > yn "brif bencogydd". > > Geraint > > ----- Original Message ----- > From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, April 15, 2009 2:10 PM > Subject: chef / cook > > > A oes ffordd hwylus o wahaniaethu rhwng "chef" a "cook"? > > Mae arna i eisiau dweud bod pedwar cook ac un chef wedi ennill gwobr. > "Cogydd" swn i'n > ddweud am y ddau yn naturiol. > > Mae GyrA yn rhoi "pen-cogydd" a "sieff" am "chef" a "cogydd", > "cŵc", "cwc" am "cook". Mae hefyd yn rhoi "pen-cogydd" am "cook > in charge", sef beth yw un o 'nghwcs i. > > Dw i ddim yn hoff o "sieff" ond ydi "pen-cogydd" yn swnio fel "head > chef"? > Ydi "cwc" yn > swnio braidd yn ddilornus erbyn hyn? Mewn ysgolion a chartrefi henoed > y mae'r rhain yn gweithio. > > > O diar eto > > Siān